Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy’n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.
Cafwyd y cyhoeddiad swyddogol am enillwyr y wobr mewn digwyddiad ym Mhalas Sant James heddiw (dydd Iau 25 Tachwedd 2021), a chynhelir derbyniad a chinio i enillwyr y wobr yn y Guildhall yn Llundain ar 16 Chwefror 2022.
Rhoddir Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines bob dwy flynedd ac maen nhw’n cydnabod y gwaith a wneir gan brifysgolion a cholegau’r DU sy’n arddangos ansawdd ac arloesi gan gyflwyno budd go iawn i’r byd ehangach drwy addysg a hyfforddiant.
Mae’r Brifysgol wedi ennill y wobr am waith SPECIFIC, consortiwm academaidd a diwydiannol a sefydlwyd yn 2011 i ymchwilio i ddatblygu technolegau ffotofoltäig cost isel ac effeithlon sy’n newid ynni solar yn drydan. Yn y deng mlynedd ers sefydlu SPECIFIC, mae ei gyflawniadau’n cynnwys:
- Y gell solar wedi’i sensiteiddio gan lifyn gyntaf yn y byd a osodwyd yn uniongyrchol ar swbstrad dur sy’n alluogwr pwysig i weithgynhyrchu ar raddfa fawr ffotofoltäig sydd wedi’i gynnwys mewn adeiladau.
- Lleihau’r amser i ddarparu ffotofoltäig y gellir ei brosesu â hylifau cost isel o 30 munud i 2.5 eiliad.
- Dulliau newydd sy’n gostwng yr amser gweithgynhyrchu ar gyfer celloedd solar sy’n sensitif i lifyn o sawl awr i lai na dwy funud.
- Yr ystafell ddosbarth ynni cadarnhaol gyntaf yn y DU sy’n dangos bod ynni solar yn gallu pweru a gwresogi adeiladau.
- Prosiectau cydweithrediadol gyda 211 o fusnesau a 128 o bartneriaid ymchwil ac academaidd mewn 17 o wledydd.
- Chwe chwmni deillio gan greu swyddi a chefnogi piblinell arloesol ar gyfer deunyddiau adeiladau dur.
- Gweithio gyda dwy gymdeithas dai leol i ddatblygu 18 o gartrefi carbon isel ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
Mae SPECIFIC hefyd yn cymhwyso technoleg ledled y byd drwy adeiladu adeiladau a bwerir gan solar yn India a gweithio gydag argraffwyr sgriniau tecstilau ym Mecsico i greu modiwlau solar ar ddeunyddiau hyblyg. Yn Ne Affrica, mae’n defnyddio technolegau ffotofoltäig a solar thermol i wagio llaid o ganolfan drin a hefyd yn creu ystafelloedd dosbarth a bwerir gan solar yn Sambia.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:
“Rydym wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe’n derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, anrhydedd uchel ei chlod sy’n cydnabod gwaith rhagorol ein hymchwilwyr mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg. Mae’r wobr hon yn cydnabod grym ein partneriaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i drawsnewid y diwydiant adeiladu, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gyrru trawsnewidiad Cymru a’r byd tuag at sero-net”.
Meddai’r Athro Dave Worsley, Pennaeth Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg:
“Mae’n anrhydedd fawr ac yn gydnabyddiaeth go iawn o’r bartneriaeth prifysgol a diwydiant anhygoel a geir rhwng Abertawe a Tata sy’n gyrru cyfleoedd datgarboneiddio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn sicrhau wrth i ni drawsnewid o danwyddau ffosil i rhai adnewyddadwy nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’r wobr hon ar gyfer y timau o ymchwilwyr, gwyddonwyr, peirianwyr a gweithwyr proffesiynol busnes sydd wedi cydweithio mor dda dros y ddegawd diwethaf sy’n barod i gefnogi’r trawsnewidiad a chyflymu ein taith i Gymru sero-net ac yna i fyd sero-net”.
Meddai llefarydd ar gynaliadwyedd i Tata Steel yn y DU, Martin Brunnock: “Mae’r gwaith y mae SPECIFIC yn ei wneud ar gaenau newydd i ddur ac adeiladau gweithredol yn ganolog i strategaeth datblygu ac adeiladu cynnyrch Tata Steel.
“Mae’n hynod gyffrous gweld sut mae’r adeiladau gweithredol rydym wedi’u creu gyda’n gilydd yn gweithio yn y DU ac yn India ac mae’r gydnabyddiaeth hon drwy Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn dyst i’r gwaith ymchwil, hyfforddiant a sgiliau hir sefydlog arloesol a arweinir gan yr Adran Ddeunyddiau yn Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at gam nesaf ein taith sero-net gyda’n gilydd”.
Dyma’r eildro y mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, gan ei hennill o’r blaen ym 1988 am raddau mewn Peirianneg Deunyddiau ar gyfer y byd diwydiant.