Mynd i'r cynnwys

Y Swyddfa Actif

Y Swyddfa Actif yw’r adeilad diweddaraf yn rhaglen arddangos gyflawn “SPECIFIC”, sydd yn  profi cysyniad yr “Adeilad Actif” gydag ystod o ddefnyddiau ar gyfer yr adeilad. Fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio technegau cynhyrchu blaengar oddi ar y safle, ac mae’n cynnwys technolegau arloesol sydd yn cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ynni solar. 

Fe’i hadeiladwyd yn 2018, lleolir y Swyddfa Actif drws nesaf i’r Ystafell Ddosbarth Actif: ystafell ddosbarth ynni positif gyntaf y DU a enillodd Prosiect y Flwyddyn 2018 gan RICS yng Nghymru (sef Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig). Mae’r ddau Adeilad Actif yn gallu rhannu ynni gyda’i gilydd, gyda cherbydau trydanol a gyda champws y Brifysgol, sydd yn dangos sut y gellir defnyddio’r agwedd “Adeiladau Actif” sydd gan SPECIFIC mewn cymuned sydd wedi’i phweru gan yr haul ac sydd yn gynaliadwy o ran ei defnydd o ynni. 

Ariennir gan: Innovate UK | Noddir gan: Tata Steel a Cisco

Partneriaid y Prosiect: Wernick, BIPVco, Naked Energy, NSG, Akzo Nobel, Dulas.