Mynd i'r cynnwys

Arddangosydd Ynni Gwres Solar (SHED)

Defnyddir yr arddangosydd ynni gwres solar ym margam er mwyn treialu dau arddangosydd storio gwres solar ar raddfa fawr. Mae’n uned ddiwydiannol o’r  1990au sydd wedi’i hôl-addasu â thechnoleg solar, ac o ganlyniad, mae hi wedi bod yn gweithredu heb nwy ers 2012. Hefyd mae’r “shed” yn gartref i ddau brosiect pwysig arall: Cysgodfan Trenau Actif Trafnidiaeth Cymru a llwyfan profi er mwyn dadansoddi pum math o dechnoleg thermol ffotofoltäig a solar sydd ar gael yn fasnachol. 

STORFA SOLAR DDYDDIOL

Mae casglydd aer solar o faint tua 590m2 ar wal yr adeilad sydd yn wynebu’r de-orllewin yn darparu gwres i’r adeilad neu i danc mawr o ddŵr, sydd yn storio gwres ar gyfer y diwrnod canlynol. Dilëwyd y defnydd o nwy o ganlyniad i osod y system hon, gydag arbediad ynni tybiedig o 75%. 

Datganodd adroddiad monitro annibynnol gan BSRIA ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2012 tan fis Tachwedd 2013 iddo “greu ateb gwresogi sydd yn isel ei garbon ac yn economaidd”, a oedd yn meddu ar “berfformiad pwmp gwres o’r ddaear a hyblygrwydd ffynhonnell aer”. Daeth i’r casgliad bod y casglydd aer solar a’r storfa solar yn “dangos eu bod yn ddewis gwres adnewyddadwy hyfyw”. 

STORFA WRES RYNGDYMHOROL 

Ein hail arddangosydd ar raddfa fawr yn yr arddangosydd ynni gwres solar (“SHED”) yw’r Storfa Wres Ryngdymhorol. Bydd y system hon yn storio gwres gan gasglydd solar Tata Steel Colorcoat Renew SC® sydd ar do’r adeilad mewn deunydd thermocemegol SIM (salt in matrix). Mae aer llaith yn symud ar draws y SIM gan achosi adwaith ecsothermig, gan ryddhau gwres o’r matrics halen i’w ddefnyddio yn yr ystafell.