Mynd i'r cynnwys

Allech chi elwa ar ein harbenigedd?

Beth yw SPECIFIC? 

Canolfan Arloesi a Gwybodaeth yw SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe sy’n datblygu ac yn integreiddio technolegau solar er mwyn lleihau allyriadau carbon, gan greu adeiladau a all greu, storio a rhyddhau’u gwres a’u trydan eu hun drwy ddefnyddio ynni’r haul. 

Rydym yn un o saith Canolfan Arloesi a Gwybodaeth a sefydlwyd ledled y DU i feithrin diwydiant newydd drwy gau’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a masnacheiddio technolegau sy’n dod i’r amlwg.   

Mae ein tîm datblygu busnes yn cysylltu cyfleoedd sy’n deillio o ffrwyth ymchwil a thechnoleg SPECIFIC â sefydliadau mawr a mân yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Drwy gysylltu mewn ffordd ragweithiol â byd busnes a dangos y gorau o arbenigedd SPECIFIC, gall sefydliadau ddatrys heriau yn y byd go iawn drwy ddatblygu cynnyrch arloesol newydd yn unol â gweledigaeth SPECIFIC.  

Beth gallwch chi ei wneud ar gyfer fy sefydliad i?   

Eich helpu i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy: 

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu busnesau heddiw yw dod o hyd i ffyrdd o weithio’n fwy cynaliadwy ac yn unol â phryderon byd-eang tra’n parhau i fod yn gystadleuol. Gall ein tîm o arbenigwyr: 

  • Gynnig cyngor yngylch sut i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd argaeledd ynni’r haul i’w ddefnyddio mewn adeiladau 
  • Arolwg thermol o adeiladau ac adroddiad sy’n awgrymu meysydd a mannau posibl i’w gwella 
  • Modelu solar ffotofoltaidd (PV) ar gyfer adeiladau sy’n bodoli eisoes neu rai newydd a chyngor ynghylch pa dechnolegau i’w defnyddio a faint o ynni a allai fod ar gael 

Dadrisgio eich cynnyrch/gwasanaeth

Rydyn ni’n gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo masnacheiddio cynnar ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy.  

  • Dadrisgio eich cynnyrch/gwasanaeth sy’n arloesi drwy ddefnyddio ein hadeiladau fel llwyfan arddangos 
  • Mynediad i gyfleusterau a sgiliau o safon fyd-eang i gefnogi eich technoleg/cynnyrch wrth iddo dyfu a datblygu 
  • Partneru SPECIFIC fel rhan o gynigion ariannu arloesi/ymchwil/prosiect cystadleuol 

Helpu i wella cynnyrch neu brosesau sy’n bodoli eisoes: 

Gallwn gynnig mynediad i wybodaeth a chyfarpar arbenigol i oresgyn problemau. 

  • Cyfleoedd cydweithredu posibl â sefydliadau partner strategol – TATA Steel, NSG ac Akzo Nobel 
  • Gall eich cwmni noddi ymchwil i edrych ar bwnc sydd o ddiddordeb i’ch busnes 
  • Profi prosesau gweithgynhyrchu newydd gan ddefnyddio ein cyfleuster peilot ar gyfer llinellau gweithgynhyrchu  

Cysylltwch â ni… 

Rydyn ni’n croesawu gohebiaeth gan fusnesau a hoffai wybod mwy am dechnolegau ynni’r haul a sut y maen nhw’n berthnasol i’ch adeiladau, eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau.

Gall cwmnïau gael mynediad i’n hadeiladau, ein hadnoddau, ein cyfarpar a’n cyfleusterau arbenigol, ein staff a’u harbenigedd – yn y rhan fwyaf o achosion ariennir hyn yn gyfan gwbl eisoes, felly ni fydd hyn yn costio dim ichi. Gallwn gefnogi busnesau ledled y DU ond bydden ni’n croesawu’n enwedig  geisiadau gan gwmnïau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru er mwyn manteisio ar yr arian sydd ar gael gennym ni yn y maes hwn. Gofynnwch am ragor o wybodaeth. 

Dewch i ymweld… 

Mae profi bod cysyniad ‘Adeiladau Gweithredol’ ar waith mewn adeiladau go iawn yn allweddol er mwyn i fyd diwydiant, rheoleiddwyr a phrynwyr ei fabwysiadu. Dewch i ymweld ag un o’n hadeiladau arobryn a sgyrsiwch gyda’n tîm… 

Mae gennym ni nifer helaeth o adeiladau arddangos ar raddfa lawn sy’n dangos y gorau o dechnolegau solar a sut y mae modd i’w hintegreiddio mewn un system fel y gallan nhw greu, storio a rhyddhau’u hynni eu hun gan gwtogi ar garbon ac arbed arian wrth wneud hynny! Drwy ymweld â ni, gallwn ni siarad â chi am beth rydyn ni’n ei wneud a gweld sut y gallwn ni ddefnyddio ein harbenigedd ni i helpu’ch busnes. 

Newyddion Diddaraf ar Brosiectau Busnes: