Mynd i'r cynnwys

CAENAU DIWYDIANNOL

Rydyn ni’n datblygu caenau arloesol ar gyfer deunydd adeiladau a all gael eu cynhyrchu ar raddfa diwydiannol yn y DU. Wedi iddynt gael eu datblygu, bydd y cynhyrchion hyn yn cael eu gosod ar doeau, waliau a ffenestri adeiladau i gynhyrchu, storio a rhyddhau ynni adnewyddadwy diogel, glân.

Gellir gosod y haenau hyn ar adeiladau ar raddfa fawr, gan ddefnyddio deunyddiau cost-effeithiol a diogel. Gellir gosod y haenau ar ddeunyddiau adeiladu newydd, fel dur a gwydr, wrth gael eu cynhyrchu neu gellir eu gosod ar adeiladau sydd eisoes wedi cael eu hadeiladu.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn y ffatri cynyrchiadau peilot, sy’n unigryw yn y byd. Mae’n gam hanfodol yn natblygiad ein caenau gwreiddiol, gan eu bod nhw’n datblygu o samplau’r labordy i gynhyrchion go iawn, ac mae’n lle i brofi ar gyfer y diwydiant newydd a systemau cynhyrchu a fydd yn arwain at eu llwyddiant masnachol. Gan fod academyddion ac arbenigwyr datblygu cynhyrchion yn cydweithio’n agos mewn un lle, gall syniadau symud yn gyflym rhwng y labordy a llawr y ffatri. Rydym yn gallu gweithio ar unrhyw gam o’r broses datblygu caenau, o weithgynhyrchu deunydd crai hyd at optimeiddio’r broses weithredu a gwydnwch cynnyrch.

Yn ogystal â chyfleusterau cynhyrchu’r peilot, mae ein labordai a gweithdai peirianneg yn cefnogi integreiddiad cynnyrch a datblygiad systemau, ac yn ein galluogi i adeiladu arddangoswyr ac offer pwrpasol mewnol. Gellir profi gwydnwch, cyrydiad posib a nodweddion corfforol caenau gydag ystod o safonau’r diwydiant, gan ategu ein gallu ymchwilio gwyddonol helaeth.

Un enghraifft lle rydym wedi datblygu gweithrediad gorchuddio, prosesu ac adeiladu o’r dechrau yw ein system orchudd wedi’i gynhesu gan y llawr. Cafodd y system ei datblygu gan SPECIFIC a’i ddylunio i weithio ar foltedd isel ar y cyd â thrydan adnewyddadwy a gynhyrchir a’i storio’n lleol, (er y gellid ei addasu lawn cystal i weithio ar foltedd uwch).

Arddangoswyd y llawr mewn esblygiad o’r cynnyrch gwres tanlawr sydd wedi bod yn gweithio yn yr Ystafell Ddosbarth Actif ers dros flwyddyn.

Arweinydd yr Ymchwil: Dr Eifion Jewell

Share this post: