Mynd i'r cynnwys
Battery image

Storio Ynni Trydanol

Bydd angen i ddulliau cynaliadwy o storio ynni trydanol fod yn elfen hollbwysig o’n cymysgedd ynni yn y dyfodol os ydym am gyrraedd sero net. Mae SPECIFIC yn edrych ar ffyrdd o gynhyrchu batris ar gyfer storio trydan. 

Ein nod yw datblygu dulliau  cynhyrchu mwy clyfar a glanach ar gyfer batris ïonau sodiwm. Rydym yn dadansoddi’r mathau gwahanol o brosesau cynhyrchu, o fformiwleiddio i ddyddodi i sychu a sintro ac yn mesur yr allyriadau a grëwyd yn ystod y gweithgynhyrchu.  Mae hyn yn galluogi ein tîm i ddeall yn well ba rannau o’r broses y gellir eu gwella, er mwyn iddynt allu datblygu ffyrdd o leihau allyriadau.

Mae gan ein tîm storio ynni trydanol ddiddordeb penodol mewn batris cyflwr solet. Bydd eu hymchwil yn edrych ar y broses gan gynnwys:

  • dyddodi deunyddiau drwy ddulliau gel a chyflwr solet
  • gwella effeithlonrwydd prosesau megis sychu a sintro
  • datblygu mathau gwahanol o saernïaeth i fatris

Mae’r tîm hefyd yn dadansoddi cylch bywyd a ffactorau technolegol-economaidd nifer o systemau ynni gwahanol, o ddulliau ffotofoltäig organig i gerbydau trydan. Bydd eu hymchwil yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o ba mor gynaliadwy a chost-effeithiol mae gwahanol systemau ynni. Bydd hyn yn cynnig arweiniad i’r tîm gyda’u nod o wella prosesau cynhyrchu batris.

Mae adfer deunyddiau hefyd yn rhan allweddol o gynhyrchu cynaliadwy ac mae Jenny Baker yn arwain y prosiect TReFCO ar y cyd â Phrifysgol Birmingham i ddatblygu dulliau newydd i adfer deunyddiau â chaenau.

Arweinydd Ymchwil  Storio Ynni Trydanol: Dr Jenny Baker

Cydweithwyr: Tata, Deregallera, Elemental Inks, Birmingham University, SUNRISE, Indian Institute of Science

Share this post: