Mynd i'r cynnwys

CWRDD Â’R TÎM

Y Tîm Rheoli

SPECIFIC Management Team

Mae Sharon, Christian, Cecile, Jo, Eifion a Justin yn cefnogi Dave, Prif Ymchwilydd (PI) ac arweinydd SPECIFIC, i sicrhau bod SPECIFIC yn adeiladu ar ei lwyddiannau trwy ymchwilio a chynyddu technoleg Adeiladau Actif wrth barhau i ddilyn nodau ac amcanion Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth (IKC) y DU. Maent yn gyfrifol am weithrediad presennol SPECIFIC a’i gyfeiriad yn y dyfodol trwy gysylltu’n helaeth â staff, partneriaid allanol a rhanddeiliaid.

Arweinwyr Ymchwil

Mae ein harweinwyr ymchwil ar frig eu meysydd priodol ac yn rheoli tîm enfawr o ymchwilwyr yn SPECIFIC – yn gweithio tuag at weledigaeth gyfrannol o ddatblygu technoleg solar arloesol er mwyn galluogi Adeiladau Actif. Ar y cyd, maent wedi cyhoeddi dros 500 o bapurau ymchwil, gan gynnwys yn Materials World ac Energies, ac wedi derbyn dros 8,000 o gyfeiriadau o ganlyniad i hyn.   

Research Leads Group Photo

Ymchwilwyr

Mae dros 70 o staff ymchwil gan SPECIFIC, yn gweithio ar draws chwe thema ymchwil: storio trydan, ffotofoltäeg (PV) wedi’u hargraffu, storio gwres, caenau diwydiannol, systemau ynni adeiladau a dal ynni. I ddarganfod mwy am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud ym mhob tîm, cliciwch ar y botymau isod.

Datblygu Busnes

Mae tîm datblygu busnes yn cysylltu cyfleoedd o uned ymchwil a thechnoleg SPECIFIC â sefydliadau mawr a bach yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Trwy gysylltu’n rhagweithiol â busnesau ac arddangos arbenigedd SPECIFIC, gall sefydliadau arloesi a datblygu cynnyrch newydd yn unol â gweledigaeth SPECIFIC.

Rheoli Prosiectau

Mae’r tîm Rheoli Prosiectau yn gyswllt rhwng gweithgareddau SPECIFIC a rheoli’r berthynas â’n rhanddeiliaid a’n cyllidwyr. Maent yn sicrhau bod ystod eang o weithgareddau prosiect mesuradwy SPECIFIC yn cael ei dal, ei chasglu a’i hadrodd.

Cyfathrebu

Mae’r tîm cyfathrebu yn gyfrifol dros rannu’r holl ymchwil gwych a’r cydweithrediadau â busnes a geir yn SPECIFIC. Gallwch gael y newyddion diweddaraf ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol (Trydar / LinkedIn), ein cylchlythyr neu drwy’n tudalen newyddion.

Cyfleusterau

Mae’r tîm cyfleusterau yn gyfrifol dros sawl adeilad ac offer SPECIFIC ar draws y prosiect, gan gynnwys labordai cemegol, ystafelloedd glân, gweithdai peirianneg ac adeiladau arddangos. Mae’r tîm yn sicrhau bod yr adeiladau yn amgylchedd diogel i’r rhai sy’n gweithio ynddynt a bod yr offer mewn cyflwr gweithio da ac yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol a gofynion Iechyd a Diogelwch.