Mynd i'r cynnwys

Cartrefi Actif Castell-nedd  

Mae SPECIFIC wedi bod yn gweithio gyda grŵp tai Pobl a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar brosiect cyffrous er mwyn datblygu un-deg-chwech cartref arloesol, eco-gyfeillgar newydd. Y prosiect yng nghastell-nedd fydd y datblygiad tai cymdeithasol cyntaf i ddefnyddio’r technolegau adnewyddadwy hyn yn y D.U. 

Mae technoleg adnewyddadwy, a deunydd sydd yn effeithlon o ran ynni, wedi’u hintegreiddio yn y cartrefi er mwyn lleihau’n rhagweithiol effaith allyriadau carbon a thlodi tanwydd. Ni fydd cyflenwad nwy gan y Cartrefi Actif – byddant yn defnyddio Tata Steel Colorcoat Renew SC® er mwyn cynhesu’r dŵr a’r gofod, ynghyd â phwmp gwres ffynhonnell aer gan Ariston. Byddant yn cynhyrchu trydan drwy do solar integredig BIPVCo ac yn storio ynni ychwanegol mewn batris Tesla Powerwall er mwyn ei ddefnyddio nes ymlaen yn y diwrnod. Os bydd llai o haul ar gael, gellir trydanu’r batris dros nos, sydd yn rhatach na’u trydanu yn ystod y dydd.  

Partneriaid  y Prosiect: Pobl a Chyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyflenwyr Technoleg: Tata Steel, Ariston, BIPVCo, Tesla