Mynd i'r cynnwys

Y Twyni

Mae SPECIFIC yn gweithio gyda’r Ganolfan Adeiladu Gweithredol i ôl-ffitio adeilad ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe gan gyflwyno technolegau ynni adnewyddadwy integredig a system rheoli ynni glyfar.  

Mae’r adeilad modiwlaidd deulawr, a elwir ‘Y Twyni’, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu ac mae’n gartref i Undeb y Myfyrwyr. Bydd 135kWp o baneli solar ffotofoltäig, system storio ynni trydanol ar raddfa fawr, a chyfleusterau gwefru cerbydau trydanol yn cael eu hychwanegu at yr adeilad.  Bydd system rheolaethau’n rheoli’r ynni a gynhyrchir gan y paneli solar ac yn ei ddosbarthu rhwng y system storio ynni, gwefrwyr ceir ac adeilad yr Ysgol Reolaeth gerllaw. Bydd cysgodfa ceir â phaneli solar ffotofoltäig ar gyfer pum cerbyd hefyd yn rhan o’r system ynni. 

Bydd y technolegau adnewyddadwy integredig hyn yn helpu’r Twyni i arbed arian ac allyriadau carbon, yn galluogi strategaethau archwilio rheoli a defnyddio ar gyfer batris storio, ac yn helpu’r brifysgol i gyrraedd ei tharged carbon sero-net erbyn 2040. Mae’r ynni a gynhyrchir gan y paneli solar yn gallu cael ei storio yn y batris a’i ryddhau pan fydd ei angen. Gan ddibynnu ar y gost ac arddwysedd carbon pŵer o’r grid ar adegau gwahanol yn y dydd, bydd y system reoli’n penderfynu pryd i dynnu ynni o’r grid a phryd i ddefnyddio’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan yr adeilad. 

Y Twyni fydd ein hôl-ffitiad mwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn, gan gynhyrchu mwy o ynni solar a gallu storio batri na phrosiectau blaenorol.  Bydd ei fesuryddion is-gylched helaeth yn ein galluogi i fonitro perfformiad ynni’r adeilad ei hun a’i integreiddio â system y campws. 

Ariennir y prosiect gan y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, gyda SPECIFIC yn cefnogi’r broses ddylunio ac yn cynghori ar systemau a rheolaeth ynni. Disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni. 

Partneriaid y prosiect: Y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, Prifysgol Abertawe