Mynd i'r cynnwys

Yr Economi Gylchol

Mabwysiadu economi gylchol yw’r unig ffordd o gyrraedd targedau newid yn yr hinsawdd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau’n cynnig cyfle unigryw i ddylunio er mwyn hwyluso ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu o’r cychwyn. Gyda chynnydd cyflym mewn technolegau adnewyddadwy, rhaid i ni osgoi datrys un broblem amgylcheddol a chreu un arall.

Yma yn SPECIFIC, mae’r economi gylchol yn ffocws sylweddol ar draws ein holl themâu ymchwil, ond yn benodol ddeunyddiau ffotofoltäig argraffedig a storio ynni trydanol.

Mae dyfeisiau megis celloedd solar a batris perofsgit wedi’u peiriannu’n helaeth. Ynghyd â gwaith i wella gweithgynhyrchu a pherfformiad y technolegau hyn, rydym yn ymchwilio i ddulliau rhad o waredu ac ailddefnyddio deunyddiau o’r dyfeisiau ar ddiwedd eu bywydau defnyddiol, fel y gallant gael eu defnyddio i greu dyfeisiau newydd a gwireddu eu gwerth.

Mae dadansoddi cylch bywyd yn weithgaredd allweddol, er mwyn deall yn llawn y costau amgylcheddol o gynhyrchu ac ailgylchu technolegau a deunyddiau.

Rydym hefyd yn archwilio sut i waredu ac ailddefnyddio cydrannau adeiladau gan ddefnyddio’r Ystafell Ddosbarth Weithredol, a ddyluniwyd i gael ei dadosod.

Prosiectau a Chydweithredwyr

Mae’r prosiect TReFCo (Thermal Recovery of Functional Coatings) yn ymchwilio i ddulliau ailgylchu thermol ar gyfer caenau gweithredol. Mae’n gydweithrediad a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol BirminghamKeeling and WalkerPrecision VarionicDeregalleraTata Steeladphos GroupElemental Inks & ChemicalsWRAP a Plug Life Consulting.

Mae APOLLO yn brosiect a ariennir gan Horizon Ewrop sy’n gwella ailgylchu deunyddiau ffotofoltäig solar. Caiff ei arwain gan Fraunhofer-Gesellschaft zur Förderung der angewandten Forschung e.V. ym Munich, yr Almaen, gydag 18 partner ledled Ewrop.

Yr Athro Matthew Davies yw deiliad Cadair Technolegau Ynni Cynaliadwy UNESCO.  Mae’r Gadair yn ymroddedig i ddatblygu technolegau solar rhad, effeithlon a chynaliadwy. Mae’n canolbwyntio ar eu gweithgynhyrchu a’u defnyddio mewn economi gylchol yn Affrica ac mewn economïau incwm isel a chanolig, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe a phartneriaid ar draws y rhanbarthau hyn.

Cysylltiadau

Share this post: