Mynd i'r cynnwys

Systemau Ynni Adeiladau

Bydd gwreiddio technolegau solar mewn prosesau dylunio a modelu adeiladau sefydledig yn hollbwysig er mwyn i gysyniad ‘adeiladau actif’ gael ei fabwysiadu’n ehangach.

Mae adeiladau arddangos SPECIFIC yn darparu llwyfan ar gyfer profi perfformiad y gwahanol dechnolegau ynni solar mewn system integredig yn y byd go iawn a darparu gwybodaeth ar sut i addasu’r systemau unigol i fod yn fanteisiol ar y cyfan. Mae gosod, gweithredu ac integreiddio gyda systemau adeiladau sy’n bodoli yn darparu arddangosiad a datblygiad platfform ar gyfer technolegau adeiladau newydd ac arloesol.

Trwy gyfuno data ynghylch yr union berfformiad yn ein hadeiladau â data ynghylch y tywydd a’r amgylchedd, gallwn lunio rhagfynegiadau manwl gywir ynghylch yr ynni solar a gynhyrchir ac a ddefnyddir. Defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu ar strategaethau rheoli a gwella perfformiad ynni mewn prosiectau adeiladu yn y dyfodol, ar gyfer SPECIFIC ac ar gyfer ein partneriaid hefyd.

Mae datblygiad a dilysiad gwahanol athroniaethau ar gyfer systemau adeiladau yn ffactor llwyddiant critigol wrth adnabod y dulliau gweithredu adeiladau mwyaf fanteisiol ac yn darparu data empirig ar weithredau’r adeiladau a all eu defnyddio i ddilysu modelau adeiladau.

Arweinydd yr Ymchwil: Dr Justin Searle

Share this post: