Mynd i'r cynnwys

Yr Ystafell Ddosbarth Actif

Adeiladwyd yr Ystafell Ddosbarth Actif yn 2016 er mwyn arddangos y technolegau ynni adnewyddadwy diweddaraf a oedd yn cael eu datblygu gan specific a chan gwmnïau cydweithredol. Roedd y prosiect yn cynnwys 20 cwmni’n cydweithredu er mwyn profi 8 cynnyrch newydd a thechnegau adeiladu. 

Am y tro cyntaf yn y DU, crëwyd lle addysgu ynni positif a reolid gan un system glyfar. Mae’r Ystafell Ddosbarth Actif yn dangos dull gwirioneddol arloesol o gynllunio ac adeiladu adeiladau, sydd yn lleihau’n sylweddol swm yr ynni a ddefnyddir yn ystod yr adeiladu a’r gweithredu. 

Hefyd mae’r Ystafell Ddosbarth Actif yn rhoi i ymchwilwyr SPECIFIC gyfle unigryw i brofi’u technolegau mewn adeilad gwag. Trwy brofi bod y dechnoleg yn llwyddo mewn amgylchedd dan reolaeth, mae’n hwyluso masnacheiddio, drwy helpu i droi’r cynnyrch yn llai o risg cyn mynd ag ef i’r farchnad. Mae’r prosiect yn mynd rhagddo, a dadansoddir y 135 mesurydd ynni yn rheolaidd (bydd pob un yn cynhyrchu nifer o bwyntiau data) er mwyn gwella perfformiad yr adeilad a darparu gwybodaeth ar gyfer ymchwilwyr ac eraill.  

Partneriaid Strategol: TATA Steel, NSG, Akzo Nobel.

Cyflenwyr y Prosiect: BIPVco, Matrix Structures, Moixa Technology, KIER, Redflow, Wind & Sun, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, CB3 Consult, Victron Energy UK, Springvale, Vellacine, Smile Plastics, IPS Roofing, Aecom.