Cwcis
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu rhai nodweddion. Gallwch gyfyngu neu rwystro’r cwcis a ddefnyddir trwy newid gosodiadau eich porwr.
Google Analytics
Rydym ni’n defnyddio Google Analytics i dracio perfformiad ein gwefan a’i phatrymau defnydd. Nid ydym yn cysylltu’r ystadegau a gesglir gan Google Analytics â gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod pobl. I gael gwybod rhagor, darllenwch: polisi preifatrwydd Google Analytics a sut mae dewis peidio â chael eich tracio.
Gwefannau Cyfryngau Cymdeithasol Trydydd Parti
Mae’n bosibl y byddwn yn plannu “teclynnau” o wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook neu Google+ yn ein gwefannau. Mae’r gwefannau hyn yn defnyddio cwcis i dracio pwy sydd wedi mewngofnodi a byddant yn gwybod pa dudalennau ar ein gwefan sy’n defnyddio’r “teclynnau” hyn.
Rheoli eich preifatrwydd
Gallwch rwystro neu dynnu cwcis yn y porwr. Gall rhwystro cwcis eich atal rhag cael mynediad at wasanaethau ar-lein Prifysgol Abertawe. Ar ôl tynnu cwcis, cewch eich allgofnodi o’ch sesiwn bresennol. I gael gwybod sut mae rhwystro a rheoli cwcis, darllenwch Gwybodaeth ynghylch Cwcis.
Gallwch ddefnyddio’r modd “cuddio enw” neu “bori preifat” yn eich porwr i gyfyngu ar y mathau o gwcis a osodir a sut y’u defnyddir i’ch tracio. Bydd hyn yn creu sesiwn newydd a byddwch yn edrych fel defnyddiwr newydd heb gysylltiad â gwefannau eraill, er enghraifft, bydd gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn eich gweld fel defnyddiwr sydd wedi allgofnodi (oni bai eich bod yn mewngofnodi’n benodol iddynt) a bydd Google Analytics yn eich gweld fel ymwelydd newydd.
Cwcis Trydydd Parti
Enw’r Cwci: Google Analytics
Pwrpas: Google Analytics
Mae Prifysgol Abertawe’n defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci sy’n gwerthuso eich defnydd o’r wefan ac yn rhoi adroddiadau i ni ynghylch gweithgaredd y wefan. Mae’r rhan fwyaf o wefannau Prifysgol Abertawe yn defnyddio Google Analytics.
Gwybodaeth ynghylch sut mae Google Analytics yn defnyddio cwcis