STORIO GWRES
Nod Ymchwil SPECIFIC i ddulliau Storio Thermol yw cynyddu’n sylweddol yr ymchwil a’r datblygu sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig o ran defnyddio storio gwres fel technoleg i ddileu’r angen am dynnu nwy o’r grid. Mae ein gwaith presennol yn ymwneud â storio thermol dyddiol (o’r dydd i’r nos) a rhyngdymhorol (o’r haf i’r gaeaf).
Mae ein system storio gwres rhyngdymhorol yn defnyddio deunydd matrics halen (SIM), sy’n gallu storio ynni thermol trwy broses thermogemegol. Caiff yr ynni thermol (gwres) ei storio trwy basio aer poeth dros y SIM, gan achosi adwaith cemegol sy’n cloi’r ynni yn y deunydd. Gwrthdroir yr adwaith yn ecsothermig, sy’n golygu bod y gwres yn cael ei ryddhau, trwy basio aer llaith dros y SIM. Os cedwir y SIM yn sych, gall storio’r gwres am gyfnod amhenodol. Ystyr hyn yw ei fod yn addas ar gyfer storio gwres o un tymor i’r llall ac yn addas ar gyfer cludo gwres o un lleoliad i’r llall.
Mae tîm SPECIFIC yn ymchwilio i ystod o ffyrdd o ddefnyddio SIM yn fasnachol, gan gynnwys ei ddefnyddio yn lle nwy i ddarparu gwres o fewn adeiladau mawr, i storio a chludo gwres gwastraff diwydiannol ac i sychu cynnyrch amaethyddol. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar y cyd ar draws ein labordai yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Arbrofol, ar raddfa yn yr adeilad Arddangos Ynni Gwres Solar ac ar safleoedd diwydiannol ac amaethyddol ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Arweinydd yr Ymchwil: Dr Jon Elvins