Yn ystod ei ymweliad â Champws Bae Abertawe, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fuddsoddiad gwerth £800,000 a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghanolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC.
Defnyddir y cyllid, a ddarperir gan Innovate UK, i adeiladu’r Swyddfa Ynni Positif gyntaf yn y Deyrnas Unedig, a fydd yn gallu cynhyrchu mwy o ynni nag y bydd yn ei ddefnyddio.
Cynhyrchir yr adeilad gan ddefnyddio technegau gweithgynhyrchu arloesol oddi ar y safle a bydd yn ymgorffori technolegau arloesol ar gyfer cynaeafu, storio a rhyddhau ynni. Bydd yr adeilad wedi’i orffen erbyn Ebrill 2018 a bydd tua 40 aelod o staff yn symud i mewn iddo ar unwaith.
Cysylltir y Swyddfa Actif â’r Ystafell Ddosbarth Actif sydd eisoes yn bodoli ac sy’n darparu lle addysgu a labordy ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ynghyd â chyfleuster datblygu ar raddfa adeilad ar gyfer prosiect SPECIFIC a’i bartneriaid o fyd diwydiant.
Nodweddion allweddol y Swyddfa Actif:
- Cyfuniad unigryw o dechnolegau cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni solar – ar ffurf gwres a thrydan.
- Wedi’i chysylltu – bydd yn gallu rhannu ynni solar â’r Ystafell Ddosbarth Actif, gan ddangos sut gallai cysyniad ‘adeiladau sy’n bwerdai’ helpu i gefnogi cymunedau cydnerth o ran ynni
- Wedi’i meddiannu – bydd yn swyddfa a ddefnyddir gan hyd at 40 o bobl, a bydd modd profi’r cysyniad a’i ddilysu â phroffil ynni go iawn.
- Mae’n defnyddio dulliau adeiladu oddi ar y safle, ac yn cael ei rhoi at ei gilydd ar y safle.
- Dyluniad y gellir ei ailadrodd
Dywedodd yr Athro Richard Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae gweld cysyniad arloesol SPECIFIC, sef ‘adeiladau sy’n bwerdai’ yn cael ei wireddu’n ymarferol yn gyffrous iawn. Daw’r Swyddfa Actif ar ein Campws bendigedig yn y Bae yn dynn ar sodlau’r Ystafell Ddosbarth Actif arloesol. Yn ogystal â dangos yr hyn y gellir ei gyflawni heb gysylltu â’r grid, bydd yr adeilad newydd yn rhannu ynni â’r Ystafell Ddosbarth Actif, gan ddangos sut y gall adeiladau gydweithio i greu cymunedau cydnerth o ran ynni.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i arwain y byd o ran cyflenwi technoleg ynni glân ac mae’r buddsoddiad hwn heddiw yn dangos ein bod yn barod i gefnogi arloesedd yn y maes hanfodol bwysig hwn.
“Mae ymchwil ac arloesi wedi profi eu bod yn gallu helpu i yrru ein heconomi. Mae Prifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad enfawr yn y maes hwn, ac yn cymryd camau breision mewn gwyddoniaeth ac ymchwil sy’n ennyn clod o bedwar ban byd. Rwy’n edrych ymlaen i weld y buddsoddiad newydd hwn yn dod i fodolaeth a gobeithiaf y bydd yn hwb arall i’r ymchwil arloesol y mae’r Brifysgol yn ei hyrwyddo.”
Dywedodd Ruth McKernan, Prif Weithredwr Innovate UK:
“Mae adeiladu’r swyddfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n creu mwy o bŵer nag y mae’n ei ddefnyddio yn gam pwysig, ac rwy’n falch mai cyllid Innovate UK sydd wedi cyflawni hyn. Mae’r Swyddfa Actif yn ddechrau oes newydd o ddylunio adeiladau ac mae’n glod i’r gwaith ardderchog y mae tîm SPECIFIC yn ei gyflawni ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd arddangos cysyniad ‘adeiladau sy’n bwerdai’ mewn ffordd mor flaenllaw yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd ac yn cynnig cipolwg i ni ar y dyfodol.”