Mae’r Athro Ron Loveland yn dechnolegydd profiadol iawn ac yn was sifil lefel uwch. Yn dilyn sawl blwyddyn yn Gyfarwyddwr Ynni yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn flaenorol, fe’i penodwyd yn 2011 yn ‘Ymgynghorydd Ynni i Lywodraeth Cymru’, gyda chyfuniad o rolau canfod llwybr, ymgynghorol a llysgenhadol (yn lleol ac yn rhyngwladol) yng nghyswllt helpu i gyflawni rhaglen arloesedd carbon isel, pŵer niwclear, byw yn glyfar Cymru (y mae’n SRO ar ei chyfer) ac amcanion grid clyfar/ynni lleol ar sail lywodraethol gydlynus.
Cyn llenwi’r swyddi hyn, Ron oedd y CTO oedd yn gyfrifol am gynghori LlCC ar bolisïau ynni, dur, telegyfathrebu a datblygu busnes.
Yn dilyn cyfuniad cynharach o waith ymchwil academaidd/diwydiannol (gan gynnwys gwaith arloesol ar ffotoddargludedd a-Silicon), a rolau ymchwil a rheoleiddio i’r HSE a noddi diwydiant yn Whitehall, daeth Ron i Gymru yn 1986 yn bennaeth adran arloesedd a thechnoleg (WINtech) i Awdurdod Datblygu Cymru, fel yr oedd ar y pryd.
Mae Ron yn athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Gymrawd i Sefydliad Ffiseg y Deyrnas Unedig ac yn gyn-aelod siartredig o’r IEE. Mae’n rhan o waith llawer o bwyllgorau ynni ac arloesedd Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys bod yn aelod o Fwrdd Arloesedd Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, tasglu Black Start a’r Fforwm Ynni Clyfar; partneriaeth ymchwil ynni’r Deyrnas Unedig ar y cyd rhwng Llywodraeth a Diwydiant (ERP) a byrddau ymgynghorol SPECIFIC, ‘adeiladau sy’n bwerdai’ Abertawe; storio ynni Diflino UCL: rhwydweithiau agored ENA a mentrau Flexis ynni’r dyfodol Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn gadeirydd ar fwrdd Sêr Cymru Solar.
Mae Ron yn freintiedig bod ganddo hefyd ddimensiwn rhyngwladol i’w waith – ran o’r flwyddyn mae’n gweithio o ganolfan yn Awstralia, yn cadw mewn cysylltiad â Sefydliad Polisi Ynni Awstralia ac yn bod yn wyddonydd gwadd yng nghanolfan Ymchwil a Datblygu flaengar Newcastle NSW ar gyfer ynni solar CSIRO.