Ffotofoltäeg (PV) Wedi’u hargraffu
Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i ffotofoltäeg symud yn gyflym o’r labordy i lawr y ffatri. Yng nghanolfan SPECIFIC, rydym yn datblygu ystod o dechnolegau a thechnegau prosesu celloedd solar a fydd yn caniatáu gweithgynhyrchu haenau ffotofoltäeg tenau tra effeithlon i raddfa gan ddefnyddio deunyddiau isel eu cost sydd ar gael yn helaeth ar y ddaear. Gweithiwn hefyd i ddeall sefydlogrwydd ac oes y dyfeisiau hyn, trwy nodweddu eu mecanweithiau diraddio a darganfod ffyrdd o ymestyn eu hoes.
Ystyriwn ein bod yn ‘agnostig o ran technoleg’, sy’n golygu ein bod yn gweithio gyda’r technolegau ffotofoltäeg mwyaf addawol i chwilio am ffyrdd o’u gweithgynhyrchu ar raddfa. Mae ein pobl yn gweithio ar bedair technoleg wahanol ar hyn o bryd: perovskite, CZTS (copr, sinc, tun, sylffwr), ffotofoltäeg organig a chelloedd solar wedi’u sensiteiddio gan liwydd.
Manylion cyswllt:
- Yr Athro Trystan Watson – ehangu graddfa a phrosesu PV
- Dr Matthew Davies – Ffotogemeg
- Dr Matt Carnie – Ffiseg deunyddiau a dyfeisiau PV
- Dr Wing Chung Tsoi – OPV a perovskite