ARWEINYDD YMCHWIL: DEUNYDDIAU A DYFEISIAU YNNI
Yn fras, mae ei ymchwil yn ymwneud â Deunyddiau a Dyfeisiau Ynni, mewn dau brif faes:
Ffotofoltäig
Fel rhan o brosiectau ymchwil SPECIFIC-IKC, Sêr Solar, a SPARC II, mae fy maes ymchwil yn canolbwyntio ar ffiseg deunyddiau a dyfeisiau ffotofoltäig a brosesir gan hylifau. Mae fy ngrŵp ymchwil ffotofoltäig yn defnyddio technegau parth amlder megis Sbectrosgopeg Electrogemegol neu Sbectrosgopeg Ffotofoltäig Arddwysedd Addasedig (IMVS); neu fesuriadau a ddatrysir ag amser megis Ffotofoltedd Byr/Dadfeiliad Ffotogerrynt a ffoto-CELIV, i nodweddu cludiant, ailgyfuniad a symudedd mewn dyfeisiau ffotofoltäig gyda diddordeb penodol mewn dulliau mesur colled wrth gynyddu maint dyfais o raddfa’r labordy i raddfa beilot, ac wrth nodweddu dulliau dirywio.
Dechreuodd ddau brosiect newydd ganol 2018. Mae un yn datblygu silicon tandem hyblyg pwysau hynod ysgafn/celloedd solar perofsgit ar y cyd ag IQE plc. Mae’r ail ar y cyd â’r adran Peirianneg Ddeunyddiau a Chyfrifiadureg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau’r rhyngrwyd pethau (IoT) newydd sbon a bwerir gan berofsgit.
Thermodrydan
Mae Matt yn arwain gweithgaredd ymchwil mwyaf newydd SPECIFIC ar ddeunyddiau a dyfeisiau thermodrydanol newydd sbon y mae modd eu prosesu â hylifau, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau organig a hybrid.
E-bost: m.j.carnie@abertawe.ac.uk
Twitter: @MattCarnie