Y Pod
Y Pod oedd yr arddangosydd cyntaf i gyfuno pob un o’r technolegau yr oedd SPECIFIC yn archwilio iddynt mewn un system. Roedd hyn yn ein galluogi i arddangos a phrofi agwedd ‘cynhyrchu, storio, rhyddhau’ yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â’r technolegau unigol.
Dangosodd y Pod ei bod hi’n bosibl pweru a gwresogi adeilad heb gysylltu â gwasanaethau sydd yn bodoli eisoes, gan leihau’r gost a’r amser ar gyfer y gwaith gosod, lleihau’r costau gweithredu, a’i wneud yn addas ar gyfer safleoedd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid, neu sydd â chysylltiad cyfyngedig. Bellach mae’n darparu cysgod ar gyfer y swyddogion parcio ar Gampws y Bae, a defnyddir y canfyddiadau ar gyfer prosiectau arddangos dilynol, fel yr Ystafell Ddosbarth Actif a’r Swyddfa Actif.