Allech chi elwa ar ein harbenigedd?
Beth yw SPECIFIC?
Canolfan Arloesi a Gwybodaeth yw SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe sy’n datblygu ac yn integreiddio technolegau solar er mwyn lleihau allyriadau carbon, gan greu adeiladau a all greu, storio a rhyddhau’u gwres a’u trydan eu hun drwy ddefnyddio ynni’r haul.
Rydym yn un o saith Canolfan Arloesi a Gwybodaeth a sefydlwyd ledled y DU i feithrin diwydiant newydd drwy gau’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a masnacheiddio technolegau sy’n dod i’r amlwg.
Mae ein tîm datblygu busnes yn cysylltu cyfleoedd sy’n deillio o ffrwyth ymchwil a thechnoleg SPECIFIC â sefydliadau mawr a mân yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Drwy gysylltu mewn ffordd ragweithiol â byd busnes a dangos y gorau o arbenigedd SPECIFIC, gall sefydliadau ddatrys heriau yn y byd go iawn drwy ddatblygu cynnyrch arloesol newydd yn unol â gweledigaeth SPECIFIC.
Beth gallwch chi ei wneud ar gyfer fy sefydliad i?
Eich helpu i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy:
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu busnesau heddiw yw dod o hyd i ffyrdd o weithio’n fwy cynaliadwy ac yn unol â phryderon byd-eang tra’n parhau i fod yn gystadleuol. Gall ein tîm o arbenigwyr:
- Gynnig cyngor yngylch sut i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd argaeledd ynni’r haul i’w ddefnyddio mewn adeiladau
- Arolwg thermol o adeiladau ac adroddiad sy’n awgrymu meysydd a mannau posibl i’w gwella
- Modelu solar ffotofoltaidd (PV) ar gyfer adeiladau sy’n bodoli eisoes neu rai newydd a chyngor ynghylch pa dechnolegau i’w defnyddio a faint o ynni a allai fod ar gael
Dadrisgio eich cynnyrch/gwasanaeth:
Rydyn ni’n gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo masnacheiddio cynnar ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy.
- Dadrisgio eich cynnyrch/gwasanaeth sy’n arloesi drwy ddefnyddio ein hadeiladau fel llwyfan arddangos
- Mynediad i gyfleusterau a sgiliau o safon fyd-eang i gefnogi eich technoleg/cynnyrch wrth iddo dyfu a datblygu
- Partneru SPECIFIC fel rhan o gynigion ariannu arloesi/ymchwil/prosiect cystadleuol
Helpu i wella cynnyrch neu brosesau sy’n bodoli eisoes:
Gallwn gynnig mynediad i wybodaeth a chyfarpar arbenigol i oresgyn problemau.
- Cyfleoedd cydweithredu posibl â sefydliadau partner strategol – TATA Steel, NSG ac Akzo Nobel
- Gall eich cwmni noddi ymchwil i edrych ar bwnc sydd o ddiddordeb i’ch busnes
- Profi prosesau gweithgynhyrchu newydd gan ddefnyddio ein cyfleuster peilot ar gyfer llinellau gweithgynhyrchu
Cysylltwch â ni…
Rydyn ni’n croesawu gohebiaeth gan fusnesau a hoffai wybod mwy am dechnolegau ynni’r haul a sut y maen nhw’n berthnasol i’ch adeiladau, eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau.
Gall cwmnïau gael mynediad i’n hadeiladau, ein hadnoddau, ein cyfarpar a’n cyfleusterau arbenigol, ein staff a’u harbenigedd – yn y rhan fwyaf o achosion ariennir hyn yn gyfan gwbl eisoes, felly ni fydd hyn yn costio dim ichi. Gallwn gefnogi busnesau ledled y DU ond bydden ni’n croesawu’n enwedig geisiadau gan gwmnïau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru er mwyn manteisio ar yr arian sydd ar gael gennym ni yn y maes hwn. Gofynnwch am ragor o wybodaeth.
Dewch i ymweld…
Mae profi bod cysyniad ‘Adeiladau Gweithredol’ ar waith mewn adeiladau go iawn yn allweddol er mwyn i fyd diwydiant, rheoleiddwyr a phrynwyr ei fabwysiadu. Dewch i ymweld ag un o’n hadeiladau arobryn a sgyrsiwch gyda’n tîm…
Mae gennym ni nifer helaeth o adeiladau arddangos ar raddfa lawn sy’n dangos y gorau o dechnolegau solar a sut y mae modd i’w hintegreiddio mewn un system fel y gallan nhw greu, storio a rhyddhau’u hynni eu hun gan gwtogi ar garbon ac arbed arian wrth wneud hynny! Drwy ymweld â ni, gallwn ni siarad â chi am beth rydyn ni’n ei wneud a gweld sut y gallwn ni ddefnyddio ein harbenigedd ni i helpu’ch busnes.
Newyddion Diddaraf ar Brosiectau Busnes:
Naked Energy Announces £17m Of New Equity
Congratulations to Naked Energy, who have recently announced £17m of new equity in Series B…
How SPECIFIC’s Network Helps Businesses to Bring About Net Zero
Solar-Powered Milk Chilling Supports Farmers in Rwanda: Q&A with Mark Spratt
Q&A Blog: Renewable Technologies at Tan Y Lan Fach Holiday Cottages
The Tan Y Lan Fach holiday cottages in rural Carmarthenshire were early adopters of solar…
Vlog: Solar Powered Milk Collection Centre in Rwanda
https://youtu.be/EGUmwSNo-Ro SPECIFIC has been supporting Solapak Development Limited to install a solar power system at…
New SEISMIC Demonstrator Building Exceeds Construction 2025 Targets in Delivery, Carbon, and Cost
The SEISMIC project has launched its new demonstrator building, showing how its approach to platform-based…