Amdanom Ni
Roedd SPECIFIC yn un o saith Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth a sefydlwyd i feithrin diwydiannau newydd trwy gau’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a’r defnydd masnachol ohoni.
Mae cysyniad adeiladau SPECIFIC yn cyfuno technoleg solar mewn un system sy’n eu galluogi i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain – ar ffurf gwres a thrydan.
PAM MAE HYN YN BWYSIG?
Adeiladau sy’n gyfrifol am tua 40% o’r ynni a ddefnyddir yn y DU a’r allyriadau carbon cysylltiedig. Mae SPECIFIC yn arwain y ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwres a phŵer mewn adeiladau, er lles meddianwyr a pherchnogion, y gymdeithas ehangach a’r isadeiledd ynni.
CARBON ISEL
- Bydd adeiladau’n rhedeg ar ynni solar
- Ni chynhyrchir allyriadau carbon wrth ddefnyddio adeiladau
- Bydd y galw am ynni’n lleihau
FFORDDIADWYEDD
- Bydd yn lleihau’r galw gan y defnyddwyr ynni mwyaf, sef adeiladau
- Bydd adeiladau’n dod yn gynhyrchwyr ac yn allforwyr ynni
- Bydd biliau tanwydd a’r ynni a ddefnyddir ar gyfartaledd mewn cartrefi yn lleihau
- Bydd gan ddefnyddwyr reolaeth ar eu hynni eu hunain
CYFLENWAD SICR
- Cyflenwad ynni sefydlog a lleol; yn cael ei gynhyrchu lle caiff ei ddefnyddio
- Dim nwy ar gyfer gwresogi
- Bydd yn lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil
- Darparu gwasanaethau sy’n cydbwyso’r grid
DULL GWEITHREDU SPECIFIC
Cynyddu Graddfa’r Dechnoleg
Mae SPECIFIC yn dwyn ynghyd arbenigwyr o’r radd flaenaf o ystod o feysydd gan gynnwys ffotofoltäeg, technoleg solar thermol, caenau gweithredol yn ogystal â storio gwres a thrydan.
Mae pedwar cyfleuster integredig yn darparu gwasanaeth o’r labordy i’r llinell gynhyrchu – gan gynnwys y labordai newydd â’r cyfleusterau diweddaraf ym Mhrifysgol Abertawe, llinellau gweithgynhyrchu arbrofol sy’n darparu’r cynhyrchion ar raddfa adeiladau, ac adeiladau graddfa lawn sy’n arddangos y dechnoleg.
Systemau ac integreiddio
Yn ogystal â datblygu technolegau newydd ein hunain, rydym yn helpu pobl eraill i ddatblygu eu rhai nhw ac rydym yn creu’r systemau sy’n eu cysylltu ynghyd mewn adeilad.
Rydym yn adeiladu adeiladau unigryw i brofi’r systemau mewn sefyllfaoedd ystyrlon. Er enghraifft, mae’r Ystafell Ddosbarth Weithredol, a ddefnyddir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys nifer o dechnolegau newydd ac arbrofol er bod y Swyddfa Weithredol, sy’n gartref i’r Ganolfan Adeiladu Gweithredol, yn defnyddio technoleg sydd ar gael yn fasnachol yn unig.
O’r Cysyniad i Fasnacheiddio
Mae ein rhwydwaith unigryw a chynyddol o brifysgolion a chwmnïau blaenllaw – o gorfforaethau amlwladol i fusnesau bach a chanolig arloesol – yn cydweithio i gynyddu graddfa technolegau, datblygu cadwyni cyflenwi a nodi llwybrau i’r farchnad.
O fewn y ganolfan ac yn ein rhwydwaith mae gennym gasgliad unigryw o ymchwilwyr, peirianwyr, gweithwyr proffesiynol ym meysydd datblygu busnes, ymgysylltu, eiddo deallusol a masnacheiddio, ynghyd â phenseiri ac arbenigwyr adeiladu.