Cerbydau Trydanol
Mewn ymgais i leihau’r llygredd o gerbydau ac arwain y ffordd at ddiwydiant cerbydau sy’n lanach, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd o 2030.
O ganlyniad, mae gwerthiannau cerbydau trydanol (EVs) yn cynyddu’n gyflym. Yn ôl data cychwynnol o Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Cerbydau (SMMT), mae ceir y mae’n rhaid eu gwefrio bellach yn cynrychioli mwy na 10% o’r ceir sy’n cael eu gwerthu yn y DU, sef cynnydd o 180% o flwyddyn i flwyddyn.
Mae egwyddor dylunio Adeiladau Gweithredol SPECIFIC yn cynnwys technolegau ynni adnewyddadwy mewn adeiladau ar gyfer gwres, pŵer a thrafnidiaeth. Mae’n defnyddio system ddeallus i reoli a rhyddhau ynni solar i ble bynnag neu bryd bynnag y mae angen amdano – boed mewn adeilad, i gerbydau trydanol neu’r grid – gan wneud mabwysiadu cerbyd trydanol yn ddewis amlwg. Mae gan Brifysgol Abertawe fflyd o 25 o gerbydau trydanol ac rydym ni’n gweithio’n rhagweithiol gyda busnesau a sefydliadau i hyrwyddo poblogrwydd cerbydau trydanol, yn ogystal â chynnig cyngor ar dechnoleg.
Yn ystadegol, mae 80% o wefru cerbydau trydanol yn digwydd yn y cartref, 15% yn y gweithle a 5% mewn mannau gwefru cyhoeddus. Gyda’r cynnydd disgwyliedig mewn mabwysiadu cerbydau trydanol fel rhan o fflyd neu gan unigolion bellach yn dod yn realiti, bydd dulliau gwefrio â phlwg yn rhoi galw ychwanegol ar y grid yn ystod amseroedd prysur (sef cyrraedd y gwaith neu ddychwelyd gartref). Am y rheswm hwn, mae SPECIFIC yn gweithio’n gydweithredol i ymchwilio i ffyrdd mwy clyfar o wefru cerbydau trydanol er mwyn cynorthwyo’r grid a lleihau pigau mewn galw am ynni ar adegau prysur. Gyda dau Adeilad Gweithredol ar Gampws y Bae sy’n cynnwys storio thermal a gwefru cerbydau trydanol, mae SPECIFIC yn cynnig llwyfan ar gyfer profi cynnyrch caledwedd a meddalwedd arloesol, sy’n cynnig mewnwelediadau i berfformiad system a llifau refeniw newydd posib.
Os oes gennych chi dechnoleg neu gynnyrch sy’n gysylltiedig â gwefru cerbydau trydanol clyfar, neu os hoffech chi gyngor ar fabwysiadu cerbydau trydanol, cysylltwch â ni.