Paneli solar mewn toeau sy’n wyrddach, yn ysgafnach, yn rhatach ac yn fwy hyblyg, ac y gellir eu hargraffu ar y dur a ddefnyddir mewn adeiladau, yw ffocws cydweithrediad ymchwil tair blynedd newydd rhwng arbenigwyr Abertawe a Tata Steel UK.
Byddai’r toeau solar yn galluogi adeiladau i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu cyflenwad trydan eu hunain. Byddai hyn yn lleihau’r ddibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil megis nwy, ac yn lliniaru’r pwysau ar y Grid Cenedlaethol, yn enwedig gan y gellir defnyddio’r ynni dros ben a gynhyrchir gan adeilad er mwyn gwefru cerbydau trydan.
Enw’r cysyniad yw “Adeiladau Ynni Gweithredol” a dangoswyd eisoes ei fod yn gweithio. Mae dau adeilad ynni gweithredol wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ar un o gampysau Prifysgol Abertawe ers sawl blwyddyn. Nod yr ymchwil newydd yw archwilio potensial y dechnoleg hon ymhellach a chyflymu’r broses o’i defnyddio i greu deunyddiau y gall byd diwydiant eu cynhyrchu.
Lansiwyd y cydweithrediad drwy lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, sef lleoliad yr adeiladau ynni gweithredol. Dyma bennod ddiweddaraf partneriaeth hirsefydlog rhwng Prifysgol Abertawe a Tata Steel.
Mae ynni solar yn hollbwysig i’r broses o symud tuag at bŵer glân, gwyrdd. Mewn un awr yn unig, mae digon o ynni solar yn cyrraedd y ddaear i ddiwallu anghenion ynni’r byd cyfan am flwyddyn.
Caiff celloedd solar traddodiadol eu cynhyrchu o silicon, sy’n ddrud ac mae angen llawer o ynni i’w gynhyrchu. Ond mae math newydd o gelloedd, o’r enw celloedd solar perofsgît, sy’n hynod effeithlon, yn rhatach ac yn ysgafnach na phaneli solar sy’n seiliedig ar silicon. Gellir creu celloedd solar perofsgît yn lleol drwy ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael yn eang ac mae’r broses gynhyrchu yn allyrru llai na hanner y carbon a ddefnyddir i gynhyrchu celloedd silicon.
Yn hollbwysig, mantais arall celloedd solar perofsgît yw eu bod yn hyblyg yn hytrach na bod yn anhyblyg. Mae hyn yn golygu y gellir eu hargraffu, gan ddefnyddio technegau megis argraffu’n uniongyrchol o sgriniau i ddeunydd megis dur wedi’i gaenu.
Mae hyn yn paratoi’r ffordd i greu cynhyrchion dur arloesol â thechnoleg cynhyrchu solar integredig y gellir eu defnyddio yn y diwydiant adeiladu.
Dyma esboniad yr Athro Dave Worsley, Pennaeth Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:
“Bydd y dechnoleg hon yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni a’r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.
Y peth pwysig yn y dyfodol yw ymgorffori technoleg ynni solar, yn hytrach na’i hychwanegu wedyn. Gellir ymgorffori’r celloedd solar argraffadwy hyn yn adeiladwaith ein cartrefi, ein siopau a’n swyddfeydd, gan eu galluogi i gynhyrchu’r pŵer y mae ei angen arnynt, a mwy.
Rydyn ni’n gwybod bod y cysyniad yn gweithio gan fod ein hadeiladau ynni gweithredol yn Abertawe heulog wedi dangos hynny. Bydd y cydweithrediad newydd hwn â Tata Steel yn ein galluogi i ddatblygu ei botensial yn gyflymach, gan nodi mathau newydd o gynhyrchion dur sy’n gweithio’n weithredol i gynhyrchu trydan.
Byddai sicrhau defnydd helaeth o’r dechnoleg hon yn hynod amserol. Yn y DU a’r tu hwnt, gall leihau’r ddibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil megis nwy wedi’i fewnforio. Byddai hefyd yn lliniaru’r pwysau ar rwydweithiau trydan cenedlaethol, er enghraifft drwy ein galluogi i ddefnyddio’r ynni dros ben a gynhyrchir yn ein cartrefi ein hunain i wefru ein cerbydau trydan.”
Bydd Prifysgol Abertawe’n cyfrannu arbenigedd wrth gynhyrchu’r celloedd argraffadwy, dan arweiniad Canolfan Arloesi SPECIFIC, a fu’n gyfrifol am arloesi’r cysyniad o adeiladau ynni gweithredol a dylunio ac adeiladu’r Swyddfa a’r Ystafell Ddosbarth Weithredol. Mae Tata Steel yn cynnig arbenigedd ym meysydd caenu dur, argraffu o sgriniau, a chadwyni cyflenwi ar gyfer deunyddiau.
Meddai Sumitesh Das, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Tata Steel UK:
“Rydyn ni’n frwdfrydig am y posibiliadau sy’n deillio o dechnoleg perofsgît – yn enwedig wrth ei hintegreiddio i ddatrys problemau adeiladu – mewn ffrydiau gwerth gwahanol yn Tata Steel.
Y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yw man cychwyn taith hir. Bydd hyblygrwydd a gwaith tîm yn diffinio ein dyfodol wrth roi’r dechnoleg hon ar waith ar raddfa fwy a chreu ffyrdd o wahaniaethu rhwng ein busnes ni a busnesau eraill.
Mae cyfuno technoleg solar “werdd” â dur yn gam sylweddol tuag at gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Mae’n destun cyffro i ni y gall effaith gadarnhaol y technolegau hyn helpu rhai o’r cymunedau tlodaf i ddianc rhag tlodi tanwydd.”