Iau 20 – Gwener 21 Medi 2018
Nod Cyfarfod Grŵp Ffotocemeg y Gymdeithas Cemeg Frenhinol yw dod â chymuned ffotocemeg y DU ac Iwerddon ynghyd er mwyn amlygu rhai datblygiadau diweddar mewn nifer o feysydd, o ffotocemeg sylfaenol a ffotoffiseg strwythurau a deunyddiau moleciwlaidd ac uwchfoleciwlaidd, ffotocemeg ddamcaniaethol a thechnegau sbectrosgopeg uwch i ddyfeisiau, tanwyddau solar a chelloedd solar a ffotocemeg at ddibenion gofal iechyd.
Mae’r cyfarfod hwn yn adeiladu ar lwyddiant cyfarfod dwyflynyddol yr Ymchwilwyr Ffotogemeg a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod yn 2011, Belfast yn 2013, Newcastle yn 2015 a Birmingham yn 2017.
Dyddiad cau
Cyflwyniad
Lawrlwythwch Dempled Crynodeb Ffotocemeg a chyflwynwch y ffeil ar ffurf pdf. Cadwch ffeil y crynodeb fel a ganlyn: Oral_Cyfnew neu Poster_Cyfenw
Anfonwch eich crynodeb ar gyfer cyflwyniadau llafar a phoster i: photochemistry.meeting@gmail.com
Noddwyr Eraill
Siaradwyr a gadarnhawyd
Lleoliad
Teithio
Sylwer, mae prinder lleoedd parcio yn agos at Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn oherwydd dyma’r adeg pan fydd y myfyrwyr yn cyrraedd. Felly, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd y cyfarfod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r dolenni canlynol:
www.firstgroup.com/south-west-wales
https://www.natgroup.co.uk/service-area/swansea-gower-peninsula
Llety
Mae gan Abertawe amrywiaeth o fathau o lety i ddiwallu anghenion a chyllidebau pawb, ond rydym yn argymell archebu llety cyn gynted â phosib.
Y Pwyllgor Trefnu
Prifysgol Abertawe – Dr Catherine Suenne De Castro (c.s.decastro@abertawe.ac.uk)
Prifysgol Strathclyde – Dr Robert Edkins (robert.edkins@strath.ac.uk)