Arweinir “Cartrefi sy’n Bwerdai” gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac mae’n un o brosiectau mwyaf Bargen Ddinesig Bae Abertawe a allai roi hwb i raglen adeiladu gyda buddsoddiad arfaethedig o fwy na £500m pan fydd y cysyniad ar waith yn y rhanbarth.
Mae safle yng Nghastell-nedd wedi cael ei ddewis i arddangos y prosiect cartrefi arloesol hwn; cysyniad lle gall adeiladau gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain; gan helpu i leihau tlodi tanwydd a’i effaith ar iechyd a lles. Y nod yn y pen draw fydd estyn y cysyniad ar draws ardal Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer prosiectau tai newydd yn ogystal ag ôl-ffitio tai presennol.
Os caiff ei gymeradwyo, disgwylir y bydd y datblygiad arbrofol yn dechrau ar ddiwedd 2017 neu ddechrau 2018. Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu 16 o gartrefi newydd ar safle hen Gartref Gofal yr Hafod, Castell-nedd, gyda mynediad hwylus i’r siopau a chyfleusterau lleol. Bydd wyth tŷ 2 a 3 ystafell wely ac wyth fflat 1 ystafell wely.
Lluniwyd y prosiect hwn i fod yn enghraifft dda o beilot ynni positif, cost isel, a’i fwriad yw dangos sut mae defnyddio technoleg arloesol, gan gynnwys technolegau adnewyddadwy integredig a deunyddiau ynni effeithlon i ddylunio, adeiladu a gweithredu’r cartrefi hyn, yn gallu lleihau’r defnydd o ynni a darparu amgylchedd iachach i bobl yn y cartref.
Cyflwynwyd y cais gan bartneriaid y cyngor, Grŵp Pobl, gyda chefnogaeth SPECIFIC a ddatblygodd y dechnoleg arloesol yma yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan roi Cymru ar flaen y gad o ran technoleg ynni adnewyddadwy byd-eang.
Mae SPECIFIC, sy’n rhan o Barc Ynni Baglan, yn Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth genedlaethol, a arweinir gan Brifysgol Abertawe gyda phartneriaid o’r byd academaidd, diwydiant a’r llywodraeth. Nod SPECIFIC yw datblygu deunyddiau â chaenau gweithredol a fydd yn trawsnewid pilen allanol adeiladau yn arwynebau sy’n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ynni. Trwy droi adeiladau’n bwerdai bydd y cynhyrchion newydd hyn yn chwyldroi’r sector adeiladu – gan ddarparu ynni adnewyddadwy sylweddol a lleihau allyriadau carbon deuocsid a chreu swyddi gweithgynhyrchu uchel eu gwerth hefyd.
Dywedodd Elfed Roberts, Pennaeth Prosiectau Grŵp Pobl:
“Mae Grŵp Pobl yn falch iawn ac yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect cartrefi arloesol hwn yng Nghastell-nedd. Am y tro cyntaf, byddai’r prosiect yn ein galluogi i ddangos y buddion y gall y technolegau diweddaraf eu darparu i ddatblygiadau tai fforddiadwy, ac i leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon yn sylweddol.
“Rydym yn ceisio sicrhau cartrefi sy’n teimlo’n gartrefol ac yn bleserus i fyw ynddynt, ond sydd hefyd yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’u hanghenion ynni o’r to a’r gorchuddion wal; ac felly’n lleihau biliau ein tenantiaid yn aruthrol. Bydd y technolegau ynni solar diweddaraf yn cael eu hintegreiddio’n berffaith yn waliau allanol a thoeon y cartrefi, yn ogystal â’r technolegau batri diweddaraf ar gyfer storio trydan. Mae llawer o’n gwaith dylunio’n cael ei gyfeirio gan ein partneriaeth â SPECIFIC, sydd ym Maglan gerllaw, y mae ganddynt arbenigedd sylweddol yn y technolegau adeiladu diweddaraf.
“Yn y pen draw mae Grŵp Pobl am i’r math hwn o brosiect fod yn gyffredin i gartrefi sy’n cael eu rhentu a chartrefi sydd â pherchnogion preswyl. Yn y bôn, ein nod yw dyfodol lle byddwn yn cynhyrchu’r deunyddiau a’r cydrannau ar gyfer y cartrefi hyn yn lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot a De Cymru.”Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Un o ysgogwyr allweddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Thasglu’r Cymoedd yw sefydlu ein rhanbarth fel arloeswr ac arweinydd ym meysydd ynni, iechyd, gweithgynhyrchu a thechnolegau creadigol. Mae gan y cysyniad “Cartrefi sy;n Bwerdai” botensial i wneud cyfraniad enfawr wrth fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd, ac o ganlyniad, i wella lles y bobl yn ein cymunedau.
“Rydym hefyd eisiau gweld y gymuned leol yn manteisio ar y buddion lleol hyn, a byddai’r prosiect hwn nid yn unig yn diogelu ac yn creu miloedd o swyddi yn ein diwydiant adeiladu, ond hefyd yn datblygu cadwyn gyflenwi eang dra medrus sydd ar flaen y gad yn dechnolegol.
“Mae Bargeinion Dinesig yn gynlluniau tymor hir ond rwy’n falch o weld bod ein partneriaid wedi gweithio’n gyflym i gyrraedd y cam cyntaf hwn wrth gyflawni un o brosiectau mwyaf y Fargen Dinesig.”Meddai Kevin Bygate, Prif Weithredwr SPECIFIC:
“Rydym yn falch ein bod wedi cefnogi Grŵp Pobl i greu’r datblygiad tai arloesol hwn. Bydd y tai hyn yn gyfforddus ac yn fforddiadwy i’w cynnal ond gyda’i gilydd mae potensial iddynt leihau’r straen ar y grid trydan lleol. Trwy godi miloedd o dai fel y rhain ni fydd angen adeiladu rhagor o bwerdai”