Astudiaeth Achos: Cysgodfan Rheilffordd Gweithredol Trafnidiaeth Cymru
Trosolwg
Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru er mwyn gwireddu gweledigaeth am rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy, hygyrch o safon y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo. Fel rhan o’r weledigaeth honno, mae Trafnidiaeth Cymru’n cydnabod y gwaith mae SPECIFIC yn ei wneud i ddatgarboneiddio adeiladau a nododd gyfle i gydweithio ar brosiect.
Mae SPECIFIC yn defnyddio cysgodfan platfform rheilffordd cymeradwy fel enghraifft o Adeilad Gweithredol. Gosodwyd y cysgodfan ar safle’r Arddangoswr Storio Gwres Ynni Solar (SHED) ac mae’n cael ei ddefnyddio i brofi a dilysu technoleg addas i alluogi’r strwythur i greu, dal, storio a rhyddhau digon o ynni i gynnal gwasanaethau hanfodol mewn ffordd carbon isel.
Fel allbwn lleiaf, ymchwilir i ddatblygiad cynnyrch unigol, y gellid ei osod yn annibynnol. Caiff effaith allyriadau carbon wrth i’r strwythur gweithredol hwn weithredu ei mesur a’i monitro, â’r nod o ddarparu data am effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ar y safle. Os oes modd, a chan ystyried yr economi gylchol, bydd y prosiect hefyd yn ceisio datblygu atebion ategol a fydd yn galluogi technolegau Adeiladau Gweithredol i gael eu cynnwys mewn strwythurau presennol o’r math hwn ar blatfformau rheilffyrdd ledled Cymru a’r DU.
Nodau
- Nodi technolegau Adeiladau Gweithredol addas a fydd yn galluogi’r strwythur i elwa ar ynni solar sydd ar gael yn y lleoliad dan sylw.
- Datblygu ateb peirianyddol â’r nod o gadw cymaint o’r strwythur gwreiddiol â phosib, er mwyn ei wneud yn addas, o bosib, i’w osod ar rai o’r cannoedd o gysgodfannau a adeiladwyd eisoes yn y rhwydwaith rheilffyrdd.
- Nodi a gosod technolegau mewn ffordd sy’n bodloni safonau diogelwch llym y rheilffordd gan sicrhau perfformiad a diogelwch gydol oes.
- Ymchwilio i’r cyfle i osod gwasanaethau cyfleustra ychwanegol sy’n cael eu pweru gan ynni solar nad ydynt yn cael eu darparu fel rhywbeth safonol ar hyn o bryd.
- Casglu data am berfformiad ynni a defnyddio hwn i ddeall effaith carbon wrth i’r dechnoleg weithredu dros gyfnod prawf o flwyddyn.