Astudiaeth Achos: Darparu Mewnbwn Technegol i Gynorthwyo wrth Ddatblygu Cynnyrch gyda Rotaheat
Trosolwg
Mae SPECIFIC yn gweithio gyda chwmnïau sy’n datblygu technolegau carbon isel i’w helpu i feithrin dealltwriaeth a chasglu data gwerthfawr cyn cyflwyno’r cynnyrch i’r farchnad.
Mae technoleg wedi’i phatentu Rotaheat yn trosi grym symudol (egni cylchdroi mecanyddol) yn uniongyrchol yn wres glân. Ar hyn o bryd, maent yn ymgymryd â chamau profi a dilysu’r broses datblygu cynnyrch ac mae SPECIFIC yn darparu lle yn y SHED yn ogystal â mewnbwn technegol i adeiladu a phrofi’r rig.
Mae gan ddyfeisiau Rotaheater botensial i ddarparu gwres sydd dros 97% yn ynni-effeithlon, gan gyfrannu dim at allyriadau carbon. Maent yn addas i’w cynnwys mewn amrywiaeth o beiriannau sefydlog a chludadwy sy’n defnyddio egni cylchdroi mecanyddol, megis tyrbinau gwynt, tyrbinau hydro a pheiriannau tyrbo. Y cymhwysiad sydd o ddiddordeb mwyaf i SPECIFIC yw cysylltu dyfeisiau Rotaheater â thyrbinau gwynt, er mwyn cynhyrchu ynni thermol glân pan na fydd tyrbin yn gallu gweithredu oherwydd capasiti’r grid trydanol.
Partneriaid y prosiect: Rotaheat
Nodau
- Cynnig lle a chymorth peirianneg i osod ac adeiladu rigiau profi yn y SHED ar gyfer ystod o gynhyrchion Rotaheat.
- Gwerthuso perfformiad ein dyfeisiau 30 kW a 250kW yn fewnol ac yn allanol.
- Coladu a dadansoddi’r data a llunio adroddiad i helpu Rotaheat i ddatblygu cynhyrchion.
- Archwilio potensial cysylltu dyfeisiau Rotaheater â thyrbinau gwynt i greu ffynhonnell ynni carbon isel a allai gael ei storio drwy systemau thermocemegol.
- Cysylltu dyfais 30 kW â phroses distyllu olew gan ddefnyddio deunyddiau storio thermol.
- Ennill nod UKCA ac wedi hynny masnacheiddio dyfeisiau Rotaheater
Effaith
- Gosod dyfais Rotaheater 30 kW (Pico) ynghyd â modur trydan 30kW i efelychu mewnbwn egni.
- Gosod dyfais Rotaheater 250 kW (Micro) ynghyd â modur trydan 350kW i efelychu mewnbwn egni.
- Dylunio gwelliannau i ddyfeisiau Rotaheater Pico a Micro.
- Cyflawni perfformiad uchaf o 42kW gyda’n dyfais Rotaheater Pico
- Cofnodi effeithlonrwydd dros 98% yn gyson.
- Mesur ynni i asesu effeithlonrwydd ynni’r dyfeisiau gydag amrywiaeth o fewnbynnau pŵer.
- Ymchwilio i allbynnau tymheredd uchaf gan ddefnyddio ystod o baramedrau mewnbwn.
- Ymchwilio i gydnawsedd â dyfeisiau thermol a mecanweithiau storio newydd.