Mynd i'r cynnwys

Dr Joanna Morgan: Rheolwr Dylunio

Jo Clarke

Mae Joanna’n bensaer cofrestredig, sydd wedi bod yn gweithio mewn ymarfer pensaernïaeth fasnachol am 13 o flynyddoedd cyn ymuno â SPECIFIC yn 2013, lle mae’n defnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad pensaernïol i gefnogi dylunio a chyflwyno prosiectau Adeiladau Gweithredol.

Yn ei rôl i gynorthwyo’r tîm yn SPECIFIC i ddatblygu technolegau newydd o ymchwil i fasnacheiddio, gwnaeth ddylunio a rheoli ein dau brosiect adeiladau dangos – yr Ystafell Ddosbarth Weithredol (2016) a’r Swyddfa Weithredol (2018).  Mae’r adeiladau hyn yn dangos cysyniad Adeilad Gweithredol, gan ddefnyddio technolegau newydd a masnachol, a chawsant eu cyflwyno ar y cyd â phartneriaid adeiladu.     

Mae ei rôl bresennol yn cynnwys arwain gweithgareddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddylunio pensaernïol adeiladau dangos y genhedlaeth nesaf, gan gynnwys Dosbarth Gweithredol ar gyfer pentrefi gwledig yn India, a gyflwynir drwy brosiect SUNRISE

Meysydd diddordeb:

  • Amgylchedd adeiledig cynaliadwy
  • Integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy mewn ffabrig adeiladau a dylunio pensaernïol.
  • Adeiladau dim carbon – sut i gyflawni dim carbon, gan ddylanwadu ar newid diwylliant yn y diwydiant adeiladu er mwyn bodloni targedau dim carbon.
  • Datblygu offer er mwyn mabwysiadu carbon isel/dim carbon, ynni isel, adeiladau gweithredol gan weithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig.

Publications:

Share this post: