Mae Joanna’n bensaer cofrestredig, sydd wedi bod yn gweithio mewn ymarfer pensaernïaeth fasnachol am 13 o flynyddoedd cyn ymuno â SPECIFIC yn 2013, lle mae’n defnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad pensaernïol i gefnogi dylunio a chyflwyno prosiectau Adeiladau Gweithredol.
Yn ei rôl i gynorthwyo’r tîm yn SPECIFIC i ddatblygu technolegau newydd o ymchwil i fasnacheiddio, gwnaeth ddylunio a rheoli ein dau brosiect adeiladau dangos – yr Ystafell Ddosbarth Weithredol (2016) a’r Swyddfa Weithredol (2018). Mae’r adeiladau hyn yn dangos cysyniad Adeilad Gweithredol, gan ddefnyddio technolegau newydd a masnachol, a chawsant eu cyflwyno ar y cyd â phartneriaid adeiladu.
Mae ei rôl bresennol yn cynnwys arwain gweithgareddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddylunio pensaernïol adeiladau dangos y genhedlaeth nesaf, gan gynnwys Dosbarth Gweithredol ar gyfer pentrefi gwledig yn India, a gyflwynir drwy brosiect SUNRISE.
Meysydd diddordeb:
- Amgylchedd adeiledig cynaliadwy
- Integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy mewn ffabrig adeiladau a dylunio pensaernïol.
- Adeiladau dim carbon – sut i gyflawni dim carbon, gan ddylanwadu ar newid diwylliant yn y diwydiant adeiladu er mwyn bodloni targedau dim carbon.
- Datblygu offer er mwyn mabwysiadu carbon isel/dim carbon, ynni isel, adeiladau gweithredol gan weithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig.
Publications:
- Clarke, J. Littlewood, J. Wilgeroth, P. and Jones, P. 2019a. Rethinking the Building Envelope: Building Integrated Energy Positive Solutions. WIT Transactions on the Built Environment, Vol.183, pp.151-161, Cited at: https://www.witpress.com/elibrary/wit-transactions-on-the-built-environment/183/37068 (DOI: 10.2495/ARC180141)
- Clarke, J. Jones, P. Littlewood, J. and Worsley, D. 2019b. Active Buildings in Practice. Sustainability in Energy and Buildings, pp.555-564. Cited at: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-981-32-9868-2_47
- Clarke, J. 2020a. Active Building Toolkit. Cited at: https://specific-ikc.uk/what-are-active-buildings/#toolkit
- Clarke, J. 2020b. Active Buildings: On designing Active Buildings. Cited at: https://wordpress.com/view/designingactivebuildings.blog
- Clarke J. 2021. Designing Active Buildings. In: Howlett R.J., Littlewood J.R., Jain L.C. (eds) Emerging Research in Sustainable Energy and Buildings for a Low-Carbon Future. Advances in Sustainability Science and Technology. Springer, Singapore. Cited at: https://doi.org/10.1007/978-981-15-8775-7_2
- Morgan, J. Littlewood, J. Jones, P. and Wilgeroth, P. 2017. Testing and validation of ‘building as power station technologies’ in practice, to maximise energy efficiency and user comfort and minimise carbon emissions. Presented at: International Conference on Sustainability in Energy and Buildings, Chania, Crete, 2017.