Gradd gyntaf Tracy oedd BSc mewn Gwyddoniaeth Gymwysedig, a ddilynwyd gan PhD oedd yn canolbwyntio ar gymhwyso opteg aflinol ag antenâu araeau graddoledig; y ddwy ym Mhrifysgol Cranfield. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio am rai blynyddoedd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, yn bennaf ym maes dyddodiad caenau clyfar. Ers ymuno ag EPSRC yn 2005 mae Tracy wedi cyflawni amrywiaeth o rolau, gan gynnwys perchennog cynllun cymrodoriaethau, rheolwr portffolio peirianneg, ac arwain y broses gyfarpar strategol. Symudodd Tracy i Thema Gweithgynhyrchu’r Dyfodol ym mis Gorffennaf 2015 er mwyn arwain y portffolio Gweithgynhyrchu Deunyddiau. Ymhlith y buddsoddiadau EPSRC más critigol y mae hi’n gofalu amdanynt mae CDT COATED2 yn Abertawe, sy’n rhan o’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, ac yn perthyn yn agos i SPECIFIC.