Mae gwaith adeiladu ar y gweill yng Nghastell-nedd ar y datblygiad tai mawr cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r cysyniad ynni haul ‘Adeiladau Gweithredol’.
Mae’r 16 cartref, ar safle cartref gofal blaenorol, wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o ynni haul a byddant yn defnyddio cyfuniad o dechnolegau arloesol i ganiatáu i’r cartrefi gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain.
Mae’r prosiect Adeiladau Gweithredol Castell-Nedd yn bartneriaeth rhwng y sefydliad tai Grŵp Pobl, Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot a Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
Mae’r cysyniad ‘Adeiladau Actif’, a ddatblygwyd gan SPECIFIC, yn cynnwys paneli ffotofoltäig integredig ar y toeau a chasglydd gwres solar ar waliau sy’n wynebu’r de ar gyfer gwresogi dŵr. Bydd batris yn storio ynni dros ben i’w ddefnyddio wedyn, tra bydd gwres gwastraff yn cael ei gipio a’i ailgylchu o fewn system awyru’r cartref.
Esboniodd Elfed Roberts, Pennaeth Datblygu (Gorllewin) ym Mhobl sut y gallai’r technolegau fod o fudd i fywydau’r trigolion: “Fel datblygiad carbon isel, bydd Cartrefi Gweithredol Castell Nedd yn archwilio sut y gall llai o ddefnydd o ynni gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles defnyddwyr; trwy’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dioddef tlodi tanwydd, er enghraifft.”
Ychwanegodd Kevin Bygate, Prif Swyddog Gweithredol SPECIFIC “Gallai cartrefi fel y rhain, os bydant yn cael eu hadeiladu mewn niferoedd mawr, chwarae rhan sylweddol o ran brwydro yn erbyn yr argyfwng ynni a ragwelir ym Mhrydain trwy leihau biliau ynni cartrefi a chymryd y pwysau oddi ar y system ynni. Cartrefi Gweithredol Castell Nedd fydd y datblygiad cyntaf i gyflwyno’r dyluniad hwn i gartrefi, gan ddefnyddio model y gellir ei ailadrodd a’i ddatblygu mewn mannau eraill.”
Mae’r wyth tŷ ac wyth fflat ar y datblygiad hefyd wedi’u cynllunio i fod yn fenter fraenaru ar gyfer y prosiect llawer mwy Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ar draws Dinas Ranbarth Bae Abertawe sydd i gael ei ariannu’n rhannol, yn amodol ar gymeradwyaeth achos busnes, gan y Fargen Ddinesig Bae Abertawe werth £1.3 biliwn.
Mae’r cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan y cwmni adeiladu o dde Cymru, TRJ.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae adeiladu’r cartrefi hunan-bweru hyn yn wych i’r rhanbarth hon gan ei fod yn ein gosod ar flaen y gad ar gyfer technolegau ynni gwyrdd newydd a mae’n defnyddio sgiliau lleol, gweithwyr lleol ac mae’n gysylltiedig â busnesau lleol megis Tata Steel.
“Hefyd mae wedi’i anelu at gychwyn y prosiect ehangach Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a allai wneud rhanbarth Bae Abertawe yn chwaraewr allweddol o ran datblygu cartrefi, swyddfeydd ac adeiladau eraill sy’n hunan-bweru.”
Mae’r datblygiad yn cael ei gyllido gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol yn ogystal â chyllid preifat.
Ar ôl ei gwblhau, bydd perfformiad y Cartrefi Gweithredol yng Nghastell-nedd yn cael ei fonitro gan raglen fonitro’r Yr Adran Busnes, Ynni, Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).