Sharon Bishop sy’n arwain cyfathrebu ar gyfer SPECIFIC.
Enillodd ei gradd a’i gradd meistr ymchwil mewn Peirianneg Ddeunyddiau o Brifysgol Abertawe ym 1999 ac mae wedi gweithio fel peiriannydd yn y diwydiant pŵer am bum mlynedd cyn symud ymlaen i ymgysylltiad y cyhoedd â gwyddoniaeth.
Ymunodd Sharon â SPECIFIC yn 2014 o Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham lle, fel Cyfarwyddwr, y gwnaeth arwain ei thwf i ddenu 50,000 o aelodau’r cyhoedd a thros 300 o gyfranogwyr y flwyddyn.
Ers 2006, mae wedi bod yn rhan o FameLab, cystadleuaeth fyd-eang a rhaglen hyfforddiant cyfathrebu ar gyfer gwyddonwyr, ac mae’n dal i gynnal rhan Cymru o gystadleuaeth y DU.
Mae Sharon yn aelod sefydlu fforwm Ymgysylltu â’r Cyhoedd Prifysgol Abertawe ac yn aelod o fwrdd Oriel Science. Roedd hi hefyd yn rhan greiddiol o’r tîm a ddaeth â Gŵyl Wyddoniaeth Prydain i Abertawe yn 2016, gan sefydlu Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe a gynhelir bob blwyddyn gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.