Arweinydd Ymchwil: Nodweddu a chymhwyso ffotofoltäig perofsgit ac organig
Mae Dr Wing Chung Tsoi yn Uwch-swyddog Ymchwil yn SPECIFIC, Prifysgol Abertawe. Enillodd ei radd PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Hull (y DU). Ar ôl hynny, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Sheffield, Coleg Imperial Llundain a’r Labordy Ffiseg Cenedlaethol (y DU). Mae’n arwain grŵp ar gelloedd ffotofoltäig perofsgit ac organig, gyda diddordeb arbennig mewn sbectrosgopeg uwch sy’n seiliedig ar Raman, sefydlogrwydd y celloedd, celloedd solar organig lled-dryloyw, a chelloedd solar perofsgit/organig ar gyfer cymwysiadau newydd neu rai sy’n dod i’r amlwg. Mae grŵp Tsoi wedi datblygu dulliau amlfapio ffoto-ymoleuedd ffotogerrynt electroymoleuedd Ramen i astudio celloedd solar perofsgit. Yn ogystal, cymhwysodd ei grŵp sbectrosgopeg Raman i astudio sefydlogrwydd deunyddiau ffotofoltäig organig (e.e. y gydberthynas â chylchdro’r moleciwlau). Ymhellach, gwnaeth ei grŵp hefyd gyfraniadau mawr at gelloedd solar organig/perofsgit ar gyfer cymwysiadau dan do/awyrofod ac mae’n arwain yn y maes hwn. Mae Tsoi wedi cyhoeddi 55 o bapurau o safon uchel ac fe’i gwahoddwyd i 22 o sgyrsiau. Mae hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn “SN Applied Sciences”, ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Microsgopeg Frenhinol” a’r Sefydliad Ffiseg.
Meysydd o Ddiddordeb
- Sbectrosgopeg Raman
- Celloedd solar organig
- Astudiaethau dyddodi
- Cymhwyso ffotofoltäig mewn ffyrdd newydd
- Uwch-nodweddu celloedd solar argraffadwy
Ebost: w.c.tsoi@swansea.ac.uk