Mae gan Christian brofiad helaeth o drosglwyddo gwybodaeth yn rhyngwyneb y byd academaidd a diwydiant, gan ddarparu rheidrwydd masnachol ar gyfer cyfleoedd. Mae’n feistr ar hyrwyddo a broceru technolegau sy’n agos i’r farchnad yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd tramor, ac mae ganddo rwydwaith cryf o gysylltiadau ar lefel uwch yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector Addysg Uwch.
Mae wedi profi ei allu i ddatblygu rhaglenni strategol a rheoli prosiectau i Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru. O ran ei gefndir academaidd, astudiodd y gwyddorau ffisegol ym Mhrifysgol Bryste (BSc mewn Ffiseg Gemegol) ac ym Mhrifysgol Caergrawnt (PhD ac astudiaethau ôl-ddoethurol) a bu’n dal swyddi diwydiannol a masnachol yn y diwydiant peirianneg (Dur Prydain a Philips Electronics) a thelathrebu.
Ac yntau’n Gyfarwyddwr Ymgysylltu Masnachol, mae’n gyfrifol am reoli timau: (staff Rheoli Prosiectau, Datblygu Busnes a Throsglwyddo Technoleg); arwain a chydlynu ymgysylltiad diwydiannol â nifer o bartneriaid busnes; a chydarwain cyfeiriad strategol y Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth.
O ran canolfan SPECIFIC, mae Christian wedi arwain ar gyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Thargedau yn unol â’r cynllun busnes; wedi sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol, tymor byr o’r biblinell dechnoleg; wedi datblygu portffolio o brosiectau gyda phartneriaid; wedi hyrwyddo a broceru cyfleoedd technoleg yn llwyddiannus o’r sylfaen ymchwil. Roedd ganddo rôl arweiniol yn y cynllun busnes a sicrhaodd gyllid ar gyfer SPECIFIC ei hun yn y tymor hir ac mae ei waith rheoli rhanddeiliaid wedi galluogi SPECIFIC i ddod yn ddolen gyswllt integredig yn Ecosystem Arloesedd y Deyrnas Unedig ac mewn strategaethau a rhaglenni arloesi yng Nghymru.
Yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, Abertawe, mae’n Ffisegydd Siartredig (CPhys, MInstP) ac yn Wyddonydd Siartredig (CSci). Yn bwysicach na dim, mae’n gefnogwr brwd i’r Elyrch!