Storio Ynni Trydanol
Bydd angen i ddulliau cynaliadwy o storio ynni trydanol fod yn elfen hollbwysig o’n cymysgedd ynni yn y dyfodol os ydym am gyrraedd sero net. Mae SPECIFIC yn edrych ar ffyrdd o gynhyrchu batris ar gyfer storio trydan.
Ein nod yw datblygu dulliau cynhyrchu mwy clyfar a glanach ar gyfer batris ïonau sodiwm. Rydym yn dadansoddi’r mathau gwahanol o brosesau cynhyrchu, o fformiwleiddio i ddyddodi i sychu a sintro ac yn mesur yr allyriadau a grëwyd yn ystod y gweithgynhyrchu. Mae hyn yn galluogi ein tîm i ddeall yn well ba rannau o’r broses y gellir eu gwella, er mwyn iddynt allu datblygu ffyrdd o leihau allyriadau.
Mae gan ein tîm storio ynni trydanol ddiddordeb penodol mewn batris cyflwr solet. Bydd eu hymchwil yn edrych ar y broses gan gynnwys:
- dyddodi deunyddiau drwy ddulliau gel a chyflwr solet
- gwella effeithlonrwydd prosesau megis sychu a sintro
- datblygu mathau gwahanol o saernïaeth i fatris
Mae’r tîm hefyd yn dadansoddi cylch bywyd a ffactorau technolegol-economaidd nifer o systemau ynni gwahanol, o ddulliau ffotofoltäig organig i gerbydau trydan. Bydd eu hymchwil yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o ba mor gynaliadwy a chost-effeithiol mae gwahanol systemau ynni. Bydd hyn yn cynnig arweiniad i’r tîm gyda’u nod o wella prosesau cynhyrchu batris.
Mae adfer deunyddiau hefyd yn rhan allweddol o gynhyrchu cynaliadwy ac mae Jenny Baker yn arwain y prosiect TReFCO ar y cyd â Phrifysgol Birmingham i ddatblygu dulliau newydd i adfer deunyddiau â chaenau.
Arweinydd Ymchwil Storio Ynni Trydanol: Dr Jenny Baker
Cydweithwyr: Tata, Deregallera, Elemental Inks, Birmingham University, SUNRISE, Indian Institute of Science