Astudiaeth Achos:
Ffordd Fwy Diogel a Gwyrdd i Greu Celloedd Solar
Trosolwg
Mae celloedd solar perfosgit carbon a argraffir wedi dangos addewid enfawr. Gellir eu cynhyrchu’n rhad ac yn hawdd ac mae costau sefydlu sylfaenol yn isel. Maent hefyd yn arwain at lefelau uchel o sefydlogrwydd. Ond mae problemau’n parhau. Mae toddyddion sy’n cael eu defnyddio i wneud y celloedd yn anghynaliadwy, yn wenwynig neu’n seicoweithredol.
Mae toddyddion seicoweithredol wedi’u gwahardd mewn rhai gwledydd, sy’n creu problemau cyfreithiol ac yn atal ymchwil a chydweithio. Gall toddyddion gwenwynig, anghynaliadwy fod yn niweidiol i bobl sy’n gweithio gyda nhw ac ni ellir eu defnyddio yn y tymor hir chwaith. Mae angen nodi opsiynau mwy diogel a gwyrdd.
Mae tîm ffotofoltäig SPECIFIC wedi gwneud hyn ac wedi cyflwyno toddydd newydd sbon a gwyrdd. Mae hyn yn disodli toddyddion anaddas sy’n cael eu defnyddio mewn celloedd solar perfosgit ar hyn o bryd. Mae celloedd solar yn cynhyrchu ynni glân ac maent yn hanfodol i’r cyfuniad o egni i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. I symud tuag at net sero, mae angen i ni sicrhau bod gweithgynhyrchu celloedd solar mor wyrdd â phosib hefyd.
Partneriaid y Prosiect: SUNRISE
Nodau
- Disodli’r defnydd o doddyddion gwenwynig, seicoweithredol ac anghynaliadwy a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu celloedd solar perfosgit
- Sicrhau bod y toddydd yn addas i’w uwchraddio
- Cynnal perfformiad celloedd solar
Effaith:
- Wedi’i wneud o stociau cynaliadwy
- Dim problemau cyfreithiol o ran ei ddefnydd ledled y byd
- Yn addas ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu ar raddfa fawr
- Ddim yn wenwynig ac y gellir ei gompostio
- Sefydlogrwydd inc gwell, yn well i argraffu
Roedd y papur hwn wedi’i amlygu fel Datblygiad Poblogaidd yng nghasgliad diweddar y cyfnodolyn Materials Science.
Papurau ymchwil yr astudiaeth achos hon yw:
Cyhoeddwyd γ‐Valerolactone: A Nontoxic Green Solvent for Highly Stable Printed Mesoporous Perovskite Solar Cells yn y cyfnodolyn Energy Technology.
Cyhoeddwyd Green Solvent Engineering for Enhanced Performance and Reproducibility in Printed Carbon-Based Mesoscopic Perovskite Solar Cells and Modules yn y cyfnodolyn Material Advances.
Roedd yr ymchwil hon yn bosib o ganlyniad i gyllid gan brosiect SUNRISE, a ariannwyd gan Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang UKRI a thrwy gyllid y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC gan y Cyngor Ymchwil Wyddonol Peirianneg a Ffisegol, Innovate UK a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.