Mynd i'r cynnwys

Astudiaeth Achos:
Y Gyfradd Effeithlonrwydd Orau hyd yn hyn ar gyfer Deunydd Thermodrydanol Printiedig

Trosolwg

Rydym wedi cynhyrchu dyfais thermodrydanol printiedig 3D newydd, sy’n troi gwres yn bŵer trydan â ffactor effeithlonrwydd o dros 50% yn uwch na’r gyfradd orau gynt ar gyfer deunyddiau printiedig.

Mae tua un chweched o’r holl ynni a ddefnyddir gan ddiwydiant yn y DU yn wres gwastraff, sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer. Gall defnyddio’r ddyfais hon i greu trydan fod yn gam enfawr ymlaen wrth helpu diwydiant i leihau ei filiau ynni a lleihau ei ôl troed carbon.

Mae deunyddiau thermodrydanol yn troi gwahaniaethau mewn tymheredd yn bŵer trydanol, neu i’r gwrthwyneb. Fe’u defnyddir mewn oergelloedd, gorsafoedd pŵer a hyd yn oed mewn watsiau clyfar sy’n cael eu pweru gan wres y corff.

Nod

Mae gan dun selenid (SnSe) botensial uchel fel deunydd thermodrydanol, ond mae’n ddrud i’w gynhyrchu. Mae ein techneg yn galluogi generaduron thermodrydanol SnSe i gael eu cynhyrchu’n gyflym ac yn hawdd mewn niferoedd mawr, gan ei wneud yn rhad iawn i ddiwydiant.

Mae’r gyfradd effeithlonrwydd – ar gyfer troi gwres yn drydan – tua 9.5% o’i chymharu â 4.5% ar gyfer yr gyfradd orau yn y gorffennol.

Effaith

  • Costau gweithgynhyrchu llawer is
  • 9.5% effeithlonrwydd
Share this post: