Mynd i'r cynnwys

Dr Cecile Charbonneau

Arweinydd Ymchwil: NANO-DEUNYDDIAU METEL OCSID AR GYFER TECHNOLEGAU SOLAR

Mae fy ngweithgareddau ymchwil presennol yn cynnwys datblygu nanoddeunyddiau a’u prosesu’n haenau metel ocsid lled-ddargludyddion cywasgedig a mandyllog. Rwy’n tueddu bod o blaid dulliau sy’n gadael ôl troed carbon isel (rhagsylweddion dyfrllyd, dulliau prosesu tymheredd isel, dulliau dyddodi cyfatebol rôl-i-rôl) i’n galluogi ni i fasnacheiddio cynnyrch newydd ym maes ffotofoltäig y drydedd genhedlaeth a phuro dŵr. Mae fy ymchwil yn tueddu i ganolbwyntio ar reoli cemeg coloidau metel ocsid a phriodweddau arwyneb deunyddiau, a’r nod yw ffurfio rhagsylweddion uwch ar gyfer cymwysiadau gorchuddio clyfar. Rwyf hefyd yn cyfrannu at nodweddu ystod eang o ddeunyddiau ar draws sawl prosiect, ac yn rhoi hyfforddiant syml ar dechnegau megis FEG-SEM, arwynebedd/porosimetry a diffreithiant pelydr-X.

Mae fy ngweithgareddau addysgu ar draws sawl portffolio amrywiol y Coleg Peirianneg: Blwyddyn Sylfaen (EG-080: Sylfeini Deunyddiau) Blwyddyn 1 Peirianneg Gemegol a Deunyddiau  (EGA110: Cemeg Offerynnol a Dadansoddol); EGA113: Astudiaethau Achos Deunyddiau) a Pheirianneg Ddeunyddiau Ôl-raddedig (EGS-M12:Offerynnol Cymhwysol a Thechnegau Dadansoddol, yn dechrau ym mis Chwefror 2017).

Yn olaf, ymunais â’r tîm Sgiliau Cyflogadwyedd ym mis Tachwedd 2015 fel Hyrwyddwyr Cyflogadwyedd Peirianneg Ddeunyddiau. Rwy’n cynnig cymorth i bob myfyriwr ym maes Peirianneg Ddeunyddiau o ran datblygiad eu gyrfa (cymhorthfa CV, mentora ac ati) ac yn datblygu cysylltiadau rhwng ein hadran ni a’r diwydiant er mwyn hwyluso llwybr ein myfyrwyr tuag at gael cyflogaeth. Rwyf hefyd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu cysylltu â’n corff proffesiynol sef yr IOM3 (Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Chloddion) ac yn gweithio tuag at gael Siarteriaeth.

Meysydd o Ddiddordeb

  • Synthesis nanoronynnau metel ocsid
  • Llunio mesoporous a haenau ocsid cywasgedig
  • Ffotofoltäig trydydd cenhedlaeth
  • Nodweddu deunyddiau
  • Prosesu nano-goloidau C-Isel

Ebost: c.m.e.charbonneau@swansea.ac.uk

Papurau academaidd

Share this post: