Mynd i'r cynnwys

DR DIANA MONTGOMERY

Mae Dr Diana Montgomery wedi arwain y Gymdeithas Cynnyrch Adeiladu ers 2012, gan hyrwyddo pwysigrwydd gweithgynhyrchu a dosbarthu cynnyrch adeiladu’r Deyrnas Unedig i’r gadwyn gyflenwi gyfan ym maes adeiladu, a’r gwerth a ddaw yn sgîl hynny i’r economi ehangach. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli 85% o’r sector £50 biliwn yn ôl gwerth, gan gynnwys cwmnïau amlwladol ar draws y byd a 21,000 o Fentrau BaCh ar draws y Deyrnas Unedig.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas Cynnyrch Adeiladu, Diana oedd Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas y Diwydiannau Cemegol, lle bu’n codi proffil gweithgynhyrchu cemegol yn y Deyrnas Unedig ac yn sefydlu ei rôl allweddol o safbwynt cyflawni targedau cynaliadwyedd llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyn hynny, bu’n ben ar yr agenda gynaliadwyedd mewn cwmnïau megis Centrica, yr AA a Johnson Wax.

Ym mis Hydref 2014 penodwyd Diana gan Dryslorlys Ei Mawrhydi yn gadeirydd ar Grŵp Capasiti a Sgiliau Cadwyn Gyflenwi Infrastructure UK. Hi hefyd yw cadeirydd bwrdd Sefydliad Rheoli ac Asesu’r Amgylchedd, ac mae’n Gymrawd i’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol a’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol. Mae gan Diana raddau o Brifysgol Rhydychen a Choleg Imperial mewn Cemeg a Rheolaeth Amgylcheddol.

Share this post: