Mae gan Dr Eifion Jewell radd a PhD mewn peirianneg fecanyddol o Brifysgol Abertawe. Roedd yn un o sefydlwyr Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC), ac mae’n arbenigo ym maes gweithgynhyrchu arloesol gan ddefnyddio technolegau argraffu a chaenu. Mae hefyd wedi gwneud gwaith helaeth i feithrin technolegau datblygol a masnacheiddio electroneg argraffedig hyblyg drwy Rwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth y DU. Ymunodd Eifion â SPECIFIC yn 2012, gan ymgymryd â rôl arweiniol wrth ddatblygu cyfleusterau gweithgynhyrchu peilot a galluoedd gwyddonol cysylltiedig.
Ar hyn o bryd, mae’n Uwch-ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg â chyfrifioldeb am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy raglen gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meysydd diddordeb:
Deunyddiau caenu gweithredol a’u nodweddu
Technolegau dyddodi ar gyfer gweithgynhyrchu ar raddfa o ddeunyddiau caenu gweithredol
Storio thermogemegol.
Ebost: e.jewell@abertawe.ac.uk