Mynd i'r cynnwys

Dr Jenny Baker

Arweinydd Ymchwil: Grŵp Storio Electrogemegol

Jenny yw’r arweinydd storio electrocemegol i SPECIFIC, gan weithio ar gymwysiadau storio ansymudol sy’n cynnwys batris  llif, ïon-lithiwm ac ïon sodiwm. 

Cyn dod i’r byd academaidd, bu’n gweithio ym maes gweithgynhyrychu awyrofod (yn Rolls-Royce a VSMPO-Avisma) am 12 mlynedd, gan ddatblygu llwybrau prosesu i alluogi economi gylchol ar gyfer titaniwm gradd awyrofod, ac mae’n dod â”r arbenigedd hwnnw i’w hymchwil ar weithgynhyrchu cynaliadwy. Ar ôl dychwelyd i’r byd academaidd, cwblhaodd Jenny PhD mewn catalyddion argraffu graffen i gelloedd solar wedi’u sensiteiddio gan liw yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Cyn sefydlu’r tîm storio electrocemegol, bu Jenny’n datblygu prosesau gweithgynhyrchu ar gyfer ffotofoltäig perfosgît cyflwr solet.

Meysydd o Ddiddordeb

  • Prosesu deunyddiau cynaliadwy ar gyfer dyfeisiau electronig cyflwr solet ar gyfer cymwysiadau ynni
  • Asesu techno-economaidd a chylch oes ar gyfer creu ynni a thechnolegau storio i gymwysiadau ansymudol

Ebost: j.baker@swansea.ac.uk
Trydar: @DrJenBaker

Papurau academaidd

Share this post: