Mynd i'r cynnwys

DR JON ELVINS

ARWEINYDD YMCHWIL: STORIO THERMOGEMEGOL

Treuliodd Jonathon ddeuddeng mlynedd yn rheoli prosiectau ymchwil a datblygu cynnyrch yn y diwydiant dur, ond bellach mae’n arwain y tîm ymchwil sy’n datblygu deunyddiau storio thermogemegol a systemau cysylltiedig yn SPECIFIC. 

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar uwchraddio deunyddiau thermogemegol o labordai bach i systemau â’r gallu i ddarparu gwres mewn unedau diwydiannol mawr, gyda phwyslais penodol ar ryngweithio’r deunyddiau â pharamedrau prosesu a sut maent yn ymateb iddynt.

Mae Jon yn aelod o grŵp Tasg 58 yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol sy’n cyfrannu at asesu deunyddiau storio thermogemegol. Mae’r rôl hon yn ymwneud ag adrodd yn ôl i BEIS ar ddatblygiadau yn y maes storio thermogemegol.

Meysydd diddordeb:

  • Storio thermogemegol
  • Nodweddu deunyddiau
  • Caenau
  • Cyrydu
  • Galfaneiddio

Ebost: jonathon.elvins@abertawe.ac.uk

Share this post: