Mynd i'r cynnwys

Yr athro Matthew Davies

Arweinydd Ymchwil: Ffotocemeg Cymhwysol

Mae Yr Athro Matthew Davies yn Athro Cyswllt ac yn bennaeth y Grŵp Ffotocemeg Cymhwysol yn SPECIFIC IKC, Y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau, Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Matthew yn Gymrawd Arloesi’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), yn Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) ac yn aelod cyngor ar gyfer Isadran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni yn y Gymdeithas honno. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ffotocemeg deunyddiau sy’n ddefnyddiol ar gyfer cymwysiadau ffotofoltäig cost isel, a’r nod yn y pendraw yw gwella sefydlogrwydd ac effeithlonrwydd a pherfformiad astudiaethau casglu golau (‘light harvesting).’Mae hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar gelloedd solar perofsgit, ond mae hefyd yn cynnwys ymchwil i gelloedd solar wedi’u sensiteiddio gan lifyn a ffotofoltäig organig. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn nodweddu dyfeisiau a ail-wnaed (“photochemistry/photophysics of the re-use of materials”) a datblygu deunyddiau a phrosesau i’n galluogi ni i ailddefnyddio ac ail-wneud yn yr economi gylchol er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau ffotofoltäig. Mae hefyd wedi gwneud ymchwil i ddatblygu atebion ynni adnewyddadwy ar gyfer ardaloedd gwledig Affrica ar y cyd â Phrifysgol KwaZulu-Natal, Durban, De Affrica.

Meysydd diddordeb:

  • Ffotocemeg ffotofoltäeg argraffadwy
  • Cemeg ffisegol
  • Cemeg Deunyddiau
  • Economi gylchol
  • Systemau ynni adnewyddadwy gwasgaredig ar gyfer gwledydd datblygol
  • E-wastraff 

Ebost: m.l.davies@swansea.ac.uk
Trydar: @mldavies04

Papurau academaidd

Share this post: