Mynd i'r cynnwys

Dr Robert Quarshie

Ar hyn o bryd Robert yw Cyfarwyddwr y KTN Deunyddiau. Yn flaenorol bu’n secondai diwydiannol i’r Adran Masnach a Diwydiant (DTI) fel Prif Ymgynghorydd Dadansoddol yn yr Uned Polisi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn gyfrifol am faes Technoleg Deunyddiau. Mae gan Robert dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant, yn gweithio gyda Pholymerau, Dur ac Alwminiwm. Mae wedi llenwi nifer o swyddi rheoli uwch ym maes strategaeth cynnyrch a’r farchnad, datblygu cynnyrch a chymwysiadau, datblygu’r broses weithgynhyrchu a gwasanaethau technegol i gwsmeriaid. Dyfarnwyd iddo Wobr Grŵp Technoleg Prydain yn 1985 am ei waith ymchwil PhD ar fatrïau dwysedd ynni uchel. Roedd Robert yn aelod allweddol o’r Tîm Arloesedd a Thwf Deunyddiau (Mat IGT) a ddatblygodd Strategaeth Deunyddiau’r Deyrnas Unedig yn 2006.

Share this post: