Mynd i'r cynnwys

Integreiddio Technoleg Sy’n ‘Newydd i’r Farchnad’ gyda Naked Energy

Trosolwg

Mae SPECIFIC yn gweithio gyda chwmnïau arloesol sy’n datblygu technolegau newydd i’r farchnad i’w helpu i feithrin dealltwriaeth werthfawr cyn i’r technolegau hyn gael eu mabwysiadu gan ddefnyddwyr a’r sector adeiladu.

Gosodwyd tiwbiau VirtuPVT Naked Energy (ffotofoltäig-thermol) am yr union reswm hwn, ac mae’r bartneriaeth wedi helpu’r cwmni i gael data perfformiad go iawn, arddangos ei gynnyrch i’r farchnad ac yn sgil hynny, i sicrhau cyllid buddsoddi gwerth £5M.

Cyn ei hintegreiddio â’r Swyddfa Weithredol, roedd technoleg Naked Energy yn y cam cyn masnacheiddio, ac roedd y cwmni yn aros i’w archeb fasnachol gyntaf gael ei chadarnhau gyda’r gadwyn gyflenwi. Roedd y tiwbiau VirtuPVT o ddiddordeb penodol i SPECIFIC oherwydd roeddem am osod y dechnoleg ar wedd fertigol (yn hytrach nag ar do) er mwyn darparu mwy o le a fyddai ar gael i’r dechnoleg  weithredu. Yn ogystal, mae’r cyfuniad o gynhyrchu ynni solar ffotofoltäig (trydanol) a chynhyrchu ynni solar thermol drwy diwbiau wedi’u gwacáu yn cydweddu ag ethos yr adeilad, sef integreiddio technolegau cynhyrchu trydanol a thermol.

Partneriaid y prosiect: Naked Energy Ltd

Nodau

  • Helpu i gomisiynu ac arddangos cynnyrch ynni adnewyddadwy arloesol, drwy archeb fasnachol, a darparu adborth ar berfformiad a phroblemau er mwyn galluogi’r cwmni i integreiddio systemau ychwanegol a datblygu’r cynnyrch.
  • Gosod y dechnoleg ar wedd fertigol er mwyn cynyddu’r lle sydd ar gael i weithredu ar gyfer y swyddfa ac integreiddio hyn â storfa thermol graddfa fawr.
  • Archwilio potensial defnyddio technoleg solar ffotofoltäig newydd i storio’r deunyddiau thermocemegol sy’n cael eu datblygu gan SPECIFIC.

Effaith

  • 2.4kWp trydanol, 9.6kWp thermol
  • 40 tiwb solar ffotofoltäig sy’n newydd i’r farchnad wedi’u comisiynu a’u gosod ar wedd fertigol
  • Darparwyd 18 mis o ddata perfformiad yn seiliedig ar system ynni solar thermol integredig weithredol: Cynhyrchwyd 2.5MWh o ynni trydanol a 4.8MWh o ynni thermol
  • Darparwyd cymorth i sicrhau rhagor o gyllid buddsoddi ar gyfer Naked Energy (£5M)
  • Tymheredd uchaf yr ynni solar oedd 84oC, sy’n dangos cydnawsedd â datblygiadau newydd ym maes storio halwynau thermocemegol.
Share this post: