Mynd i'r cynnwys

Mae Prifysgol Abertawe yn symud o solar i hylif diheintio – gan gynhyrchu 5000 litr yr wythnos ar gyfer y GIG

Mae labordy technoleg solar ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud newid dros dro i gynhyrchu 5000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos, er mwyn helpu’r GIG i frwydro yn erbyn Covid-19. Mae’r hylif diheintio, sy’n dilyn y safonau a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn ysbytai lleol.

Mae’r tîm yn cynnwys dros 30 o wirfoddolwyr o dri Choleg ac Ysgol o fewn Prifysgol Abertawe sydd â’r nod o gefnogi arwyr GIG Cymru wrth iddynt frwydro yn erbyn y pandemig byd-eang ar y rheng flaen.

Mae’r cynhyrchu yn cael ei arwain gan Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC, sy’n arbenigo mewn ymchwil solar a datblygu adeiladau sy’n cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni solar eu hunain.

Meddai Dr Iain Robertson, Darllenydd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae’r prosiect hwn wedi uno’r holl Brifysgol. O’r gymeradwyaeth, roedd modd i ni ddarparu hylif diheintio dwylo a argymhellwyd gan WHO, at y bobl oedd ei angen o fewn 7 diwrnod. Rydym wedi gallu defnyddio arbenigedd prosesu cemegol tîm SPECIFIC Prifysgol Abertawe. Rydym bellach yn gallu cynhyrchu 5000 litr yr wythnos i’w dosbarthu i fyrddau iechyd a chartrefi gofal lleol. Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gefnogi gweithwyr a gofalwyr y GIG.”

Mae’r tîm yn gweithio’n agos â gwneuthurwyr lleol i gael gafael ar y symiau enfawr o gynhwysion sydd eu hangen. Mae un o’r distyllfeydd mwyaf yng Gymru, Bragdy Coles, wedi ateb y galw drwy newid eu cynhyrchiad rỳm i ethanol, er mwyn gwneud y hylif diheintio dwylo, yn ogystal â chynyddu’r cynhyrchu mewn cyfnod byr i ateb y galw. Ac roedd is-gwmni Prifysgol Abertawe, Hexigone Inhibators, wedi benthyg eu staff ac arbenigedd gweithgynhyrchu i’r prosiect yn ystod y cyfnod sefydlu.

Mae’r broses weithgynhyrchu hefyd wedi cael ei newid a’i mireinio drwy gydol yr wythnos gydag offer newydd yn cael eu creu. Dyfeisiodd y tîm offeryn potelu aml-ben a all lenwi potel 5L mewn 20 eiliad yn hytrach na 60 eiliad.

Yn dilyn cynhyrchu, gyda chymorth Chemcycle, mae’r hylif diheintio dwylo yn cael ei ddanfon i rwydweithiau dosbarthu’r GIG er mwyn iddo allu bwydo i’r cadwyni cyflenwi yn y ddau fwrdd iechyd lleol.

Mae nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda Choronafeirws yn cynyddu bob dydd, ac mae cyflenwadau hylif diheintio a’r deunyddiau sydd ei angen i’w greu yn brin ledled y byd. Mae’r prosiect hwn yn un o lawer o fentrau a ddaeth o Gonsortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegol a Chyflym De Cymru (SWARM), a sefydlwyd er mwyn uno a galluogi sefydliadau lleol i gefnogi’r GIG.

Meddai’r Athro Dave Worsley, Is-lywydd Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae gennym dreftadaeth gref o weithgynhyrchu yma yn Ne Cymru, ac fel Prifysgol, roeddem yn awyddus i addasu ein sgiliau a chyfleusterau i helpu gwarchod arwyr ein GIG. Bydd y gadwyn cyflenwi yn ailgyflenwi’r stoc yn y pen draw, ond mae gwneud hylif diheintio dwylo yn lleol yn ffordd wych o lenwi’r bwlch. Rydyn ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd y cam hwn mor gyflym ac, fel tîm, rydyn ni’n edrych ymlaen at fod mewn man lle rydyn ni’n dosbarthu’r hylif diheintio dwylo yn lleol.” 

Ychwanegodd Dr Tracey Brady, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Tre-Gŵyr:

“Mae hylif diheintio dwylo yn rhan hanfodol o’r offer sy’n ofynnol gan weithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Mae ein practis wrth ei fodd ac yn falch ein bod wedi derbyn cyflenwad gan ein Prifysgol leol. Bydd hyn yn ein helpu i leihau’r risg o drosglwyddo coronafirws a chadw ein cleifion a’n staff yn ddiogel. ”

Share this post: