Mynd i'r cynnwys

Astudiaeth Achos: Dulliau Clyfar o Fonitro Ynni mewn Adeiladau gyda Measurable Energy

Trosolwg

Mae SPECIFIC yn cynnig dealltwriaeth a data perfformiad gwerthfawr i gwmnïau sy’n datblygu technolegau carbon isel arloesol er mwyn gwella eu cynhyrchion neu eu prosesau presennol.

Mae measurable.energy (m.e.) wedi datblygu platfform i gynnig dull o fonitro ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn amser go iawn i ddefnyddwyr, ynghyd â rheolyddion awtomataidd a gweithredoedd sy’n cael eu llywio gan ddata, fel y gallant optimeiddio perfformiad ynni eu hadeiladau a lleihau allyriadau carbon.

Dros gyfnod o dri mis, buom yn cynnal astudiaeth helaeth i gaffael a dilysu data mewn sawl lleoliad sy’n gysylltiedig â SPECIFIC, Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio caledwedd monitro ynni glyfar (socedi clyfar m.e) a meddalwedd (m.e. Hub) a ddarparwyd gan y partner yn y prosiect.

Dyluniwyd socedi pŵer m.e i gyfathrebu â phlatfform Dysgu Peirianyddol i nodi arbedion ynni posib a chânt eu rhyngwynebu ag API (rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau) Dwysedd Carbon y Grid Cenedlaethol. Yn ogystal, mae gan y socedi ddangosydd LED lliw i ddangos gwerth carbon cyfredol y grid, gan alluogi defnyddwyr i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pryd i ddefnyddio ynni yn seiliedig ar ba mor “wyrdd” yw trydan o’r grid.

Partneriaid y prosiect: measurable.energy

Nodau

  • Caffael Data: drwy 10 soced m.e. a osodwyd gan 5 o aelodau staff SPECIFIC yn eu hamgylcheddau swyddfa gartref
  • Dilysu data: Caiff data a gasglwyd gan ddefnyddio socedi pŵer m.e ei ddilysu gan ddefnyddio meddalwedd bwrpasol a meddalwedd sydd ar gael yn fasnachol a chydrannau meddalwedd cysylltiedig.
  • Profi ar gyfer rhwydweithiau Wi-Fi mentrau: er mwyn nodi gofynion a chynnal profion ar gyfer cysylltu â rhwydweithiau Wi-FI mentrau, fel y rhai a geir mewn swyddfeydd mawr a sefydliadau sector cyhoeddus, e.e. rhwydwaith Eduroam y Brifysgol
  • Cydweithredu â phartneriaid allanol SPECIFIC

Effaith

  • Caiff y data a gofnodwyd ei ddefnyddio bellach gan m.e. i optimeiddio ei system bresennol a fydd, yn sgil hynny, yn cynorthwyo wrth ddatblygu eu cynhyrchion presennol a rhai’r dyfodol a’u masnacheiddio.
  • Pan ddilyswyd y data, dangoswyd pwysigrwydd calibro socedi clyfar m.e. i fesur cerrynt (A) yn gywir os bwriedir eu defnyddio i gael data y gellir ei ddilysu am arbedion ynni.
  • Cyn y prosiect hwn, yr unig rwydweithiau roedd socedi pŵer m.e yn gydnaws â nhw oedd cynlluniau dilysu rhwydweithiau nid er elw, megis WPA2. Fodd bynnag, maent bellach yn gydnaws â rhwydweithiau Wi-Fi mentrau mawr.
  • Yn dilyn cyflwyniadau gyda KIER, cynhaliodd m.e. astudiaeth beilot ar wahân yn llwyddiannus yn adeilad yr Ystafell Ddosbarth Weithredol ym Mhrifysgol Abertawe.

Ffigur 1. (ar y chwith) Socedi Measurable Energy â Dangosyddion Effaith LED ‘coch’ a ‘gwyrdd’ i ddangos pa mor ‘lân’ yw’r grid trydan lleol o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr. (ar y dde) Y Measurable Hub; Y brif feddalwedd reoli ar gyfer socedi Measurable Energy.

Ffigur 2. (ar y chwith) Dyfais Efelychydd Llwyth AC a Reolir a adeiladwyd yn bwrpasol i brofi a chalibro data socedi m.e. (ar y dde) Enghraifft o’r system arbrofol â’r caead wedi’i dynnu i ganiatáu cysylltiad uniongyrchol.

Share this post: