Mynd i'r cynnwys

YR ATHRO TRYSTAN WATSON

Dechreuodd Trystan ei yrfa academaidd drwy astudio am radd mewn  Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe a threuliodd flwyddyn yn gweithio fel cemegydd dadansoddol yn 3M. Yna symudodd i’r Coleg Peirianneg i astudio am Ddoethuriaeth mewn Technoleg Dur. Fel rhan o’r ddoethuriaeth hon, bu’n defnyddio technegau sganio electrocemegol  i ddadansoddi nodweddion ffenomena cyrydu megis cyrydu Filoform ar is-haenau pecynnu. Bu’n un o ddyfeiswyr caen pecynnu newydd i rwystro cyrydu yn ystod triniaethau tymheredd uchel.

Yna aeth Trystan i Corus Strip Products (Tata Steel bellach) i weithio fel peiriannydd datblygu cynhyrchion, a bu hefyd yn arweinydd thema ar gyfer y grŵp technoleg proses yn y cynllun doethuriaeth peirianneg.   Yna cymhwysodd fel peiriannydd siartredig gyda’r Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio.

Yn 2007, dychwelodd Trystan i’r byd academaidd gan ymgymryd â swydd ymchwil ym maes datblygu celloedd solar sensitif i lifyn ar is-haenau metel.   Ers hynny, mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar haenau argraffedig ffotofoltäig tenau. Mae’n arbenigo mewn datblygu technolegau newydd ar gyfer gweithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig y gellir eu prosesu mewn toddiant, megis perofskitau ac OPV, gan gynnwys prosesau dyddodi (rholyn i rolyn a llen i len)  a chaledu prosesau a’u nodweddu, gan ddefnyddio electrocemeg, ffotocemeg neu ddulliau optoelectronig. Yn ystod ei yrfa, mae Trystan wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau academaidd.

Nod ei ymchwil yw datblygu piblinell gweithgynhyrchu i gynhyrchu’r setiau o ddeunyddiau newydd hyn ar raddfa lawn. Cyflawnir hyn drwy archwilio’r mecanweithiau colli sy’n gysylltiedig â graddfa, mynd i’r afael â rhwystrau yn y broses weithgynhyrchu i leihau amser cynhyrchu a sicrhau’r amrywiaeth ehangaf bosib o is-haenau drwy gynhyrchu dyfeisiadau ar wydr a brosesir ar ffurf llen a metel neu blastig rholyn i rolyn.

Mae Trystan yn briod a chanddo dair merch ac un mab ac mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd cartref yn ymateb i’w galwadau.

Mae Trystan yn Athro mewn deunyddiau ffotofoltäig ac yn Gyfarwyddwr yn SPECIFIC.

Meysydd diddordeb:

  • Haenau Ffotofoltäig tenau
  • Gwaddodi a chaledi
  • Newid graddfa
  • Nodweddu Electrogemegol
  • Cyrydu
  • Celloedd solar sy’n sensitif i lifyn
  • Perofsgît Halid Organoblwm
  • Kesterite CZTS

Ebost: t.m.watson@abertawe.ac.uk

Trydar: @TrystanWatson

Papurau academaidd

Share this post: