Mynd i'r cynnwys

STORIO TRYDAN

Mae ymchwil i systemau storio trydan ar raddfa adeiladau wedi’i hesgeuluso i raddau helaeth yn nhirwedd arloesi’r Deyrnas Unedig, lle mae’r ffocws yn awr ac yn y gorffennol wedi bod ar fatris cludadwy (ffonau symudol) a moduron. Mae’r gofynion ar gyfer systemau storio ar raddfa adeiladau yn wahanol ac felly, nod SPECIFIC a Phrifysgol Abertawe yw mynd â thechnolegau o’u cyfnod cynharaf i’r cam cynyddu graddfa ac ymlaen i ddarparu arddangoswyr technolegol datblygedig. Effaith hyn fydd creu llwybr byrrach o lawer at adeiladau hunangynhwysol, sy’n pweru eu hunain heb gysylltu â’r grid ac sydd ar gael yn helaeth yn y farchnad dai yn y Deyrnas Unedig.

Mae gwaith SPECIFIC ym maes storio ynni trydanol yn cynnwys datblygu’r canlynol:

o     Dulliau gweithgynhyrchu newydd ar gyfer batris hylif a solid gan ddefnyddio ein hoffer cotio a sintro arloesol i’w prosesu ar raddfa celloedd arian ac offer rolio stribed 100 mm o led. Rydym yn canolbwyntio ar gemegau sy’n seiliedig ar sodiwm, ond bydd y technegau’n cael eu trosglwyddo i gemegau amgen mewn cydweithrediad â grwpiau ymchwil eraill;

o    Dadansoddiad cost a chylch bywyd storio ynni ar gyfer cymwysiadau’r grid a grid bach;

o    Cemegau Batris Dur EZ gwreiddiol

Nod pob maes ymchwil yw elwa o ddatblygiadau ei gilydd ac fe’u ategir gan astudiaethau i integreiddio a rheoli storio electrocemegol o fewn adeiladau, yn enwedig celloedd llif Zn-Br.

Arweinydd yr Ymchwil: Dr Jenny Baker

Ein hoffer yn yr Ystafell Lan ar gampws Prifysgol Abertawe.
Share this post: